Celfwaith newydd yn cael ei ganmol gan ymwelwyr â'r prom
Mae artist o Abertawe sy'n gyfrifol am gelf gyhoeddus ddiweddaraf y ddinas wrth ei bodd fod pobl wedi'i chroesawu.


Dyluniodd Catrin Jones ddarluniad 3D o'r ecoleg forol leol sydd bellach wedi'i osod fel rhan o gynllun amddiffyn arfordir y Mwmbwls ac mae llawer o bobl wedi'i gymeradwyo.
Pan gafodd y gwaith yn Oyster Wharf ei gynnwys ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, roedd mwy na 100,000 o bobl wedi'i weld ac fe'i canmolwyd gan lawer.
Mae'r celfwaith, mewn concrit sy'n para'n dda wedi'i gastio gan y contractwyr Knights Brown, yn adlewyrchu ecoleg gyfoethog yr ardal, ac mae'n cynnwys delweddau o wystrys, pïod y môr, pysgod, pyrsiau'r fôr-forwyn, sêr môr a cherigos.
Bwriedir cynnwys enghreifftiau eraill o waith Catrin mewn rhannau eraill o'r prosiect amddiffynfeydd môr
Meddai Catrin Jones, "Mae hi wedi bod yn bleser mawr gallu cyfrannu at adeileddau cyfoethog yr ardal a thynnu sylw at harddwch yr ecosystem yma ym Mae Abertawe."
Mae Catrin wedi bod yn artist ers dros 40 mlynedd. Er ei bod yn arbenigo'n benodol mewn gwydr lliw, gall ddefnyddio'i sgiliau dylunio i weithio gyda llawer o gyfryngau gwahanol.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King, "Rwy'n diolch i Catrin am ei gwaith yn y Mwmbwls. Mae'n wych bod cannoedd o bobl eisoes wedi croesawu'r gelf gyhoeddus newydd hon."
Meddai Andrew Stevens, cyd-aelod o'r Cabinet, "Bydd morglawdd gwell a chryfach y Mwmbwls yn amddiffyn y gymuned rhag y cynnydd yn lefel y môr yn sgîl newid yn yr hinsawdd am flynyddoedd i ddod."
Disgwylir i'r prosiect amddiffynfeydd môr, sy'n cael ei gyflwyno ar ran y Cyngor gan y prif gontractwr Knights Brown, gael ei gwblhau i raddau helaeth yn ystod ail chwarter y flwyddyn hon. Caiff ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru.