Hwyl i deuluoedd i barhau wrth i'r tymhorau newid
Disgwylir i rai o atyniadau mwyaf poblogaidd Abertawe gau am y tymor y penwythnos hwn - ond mae llawer mwy o hwyl ar y gweill i deuluoedd.
Bydd atyniadau Llyn Cychod a golff gwallgof Parc Singleton, Lido Blackpill a Thrên Bach Bae Abertawe, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, yn gorffen gweithredu ddydd Sul yma (sylwer: 24 Medi).
Mae'r hwyl i deuluoedd sydd wedi'i drefnu ar gyfer yr hydref yn cynnwys Ysbrydion yn y Ddinas, lle mae mynediad am ddim, ar 28 Hydref yn St David's Place yng nghanol y ddinas, ar bwys hen siop Iceland.
Bydd yn cynnwys amrywiaeth o adloniant difyr, paentio wynebau, celf a chrefft Calan Gaeaf a sioeau dawns.
Bydd teuluoedd yn gallu reidio'r Trên Bach Calan Gaeaf o Blackpill a'r Mwmbwls ar nosweithiau 30 a 31 Hydref. Rhagor o wybodaeth: www.bit.ly/HGTrain23
Mae cyfleoedd am ddim yn cynnwys troeon ar hyd traeth Abertawe neu mewn parc. Croesewir cŵn yn ôl i draethau o 1 Hydref.
Bydd lleoliadau diwylliannol yn cynnig cyfleoedd am ddim hefyd. Bydd y Glynn Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe a llyfrgelloedd yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau, a bydd yr amgueddfa'n ailagor ei hardal ymlacio.
Mae dyddiadau ar gyfer y dyddiadur yn cynnwys:
- 2-8 Hydref: Dethlir thema werdd ar draws holl lyfrgelloedd Abertawe
- O 9 Hydref: Wythnos hud y llyfrgelloedd gyda digwyddiadau'n canolbwyntio ar bopeth sy'n ymwneud â hud.
- Hanner tymor mis Hydref: Bydd pob llyfrgell yn cynnal digwyddiadau. Bydd Canolfan Dylan Thomas yn dathlu pen-blwydd y bardd gyda gweithgareddau am ddim.
- 2 Tachwedd: Gweithdy galw heibio am ddim yn Amgueddfa Abertawe o 10am i 1pm.
- 3 Tachwedd: Gweithgareddau creadigol a gweithdy galw heibio i deuluoedd yng Nghanolfan Dylan Thomas, 1pm i 4pm.
- 4 ac 11 Tachwedd: Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion gyda mynediad am ddim, yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda'r nofelydd Alan Bilton.
- 17 Tachwedd: Straeon o'r Cromgelloedd yn Llyfrgell Ganolog Abertawe
- Rhagfyr: Gweithgareddau galw heibio yng Nghanolfan Dylan Thomas.
Rhagor o wybodaeth: www.croesobaeabertawe.com