Mwy o hwyl yn yr awyr agored wrth i atyniadau awyr agored estyn eu cyfnodau haf
Gall pobl sy'n mwynhau gweithgareddau awyr agored fwynhau atyniadau Cyngor Abertawe am fwy o amser na'r disgwyl yr haf hwn.
Disgwyliwyd i leoliadau poblogaidd fel Lido Blackpill a phedalos Parc Singleton gau ar ôl haf llwyddiannus ar 5 Medi, ond mae amserau agor wedi'u hestyn i 26 Medi.
Mae'r safleoedd, gan gynnwys golff gwallgof ger y llyn cychod a gerddi Southend yn y Mwmbwls, wedi bod yn brysur drwy gydol yr haf a thrwy hanner cyntaf y mis hwn.
Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae'r tywydd wedi bod yn braf ac mae ein hatyniadau wedi bod yn boblogaidd felly rydym yn falch y gallwn eu cadw ar agor am gyfnod ychydig yn hirach.
"Maent yn helpu teuluoedd i fwynhau amgylchedd naturiol Abertawe ac os bydd pawb yn cymryd gofal oherwydd bod COVID yma o hyd, gallwn wneud hynny'n ddiogel.
"Mae'r cyfnod agor hirach hefyd yn golygu bod mwy o gyfleoedd i weithredwyr twristiaeth lleol adfer yn dilyn y pandemig."
Yn y cyfnod cyn COVID, roedd yr atyniadau fel arfer ar agor nes diwedd mis Awst ond mae'r cyngor wedi penderfynu ymestyn y dyddiad i fis Medi eleni - ac maent ar agor o hyd.
Mae Lido Blackpill ar agor bob dydd. Mae golff gwallgof Gerddi Southend a'r pedalos a'r golff gwallgof ym Mharc Singleton ar agor ar benwythnosau.
Rhagor o wybodaeth:www.joiobaeabertawe.com
Llun: Pedalo ym Mharc Singleton.