Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Fideo newydd yn dangos lliwiau trawiadol yr hydref ym mharciau'r ddinas

Dyma fideo sy'n dangos lliwiau'r hydref mewn dau o barciau hyfryd Abertawe.

Clyne Gardens in autumn

Clyne Gardens in autumn

Mae Parc Cwmdoncyn a Gerddi Clun ymysg dwsinau o barciau a mannau gwyrdd lle gall teuluoedd ac ymwelwyr fwynhau'r awyr agored ledled y ddinas.

Maent ymysg llawer o leoedd am ddim sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Abertawe y gall pobl ymweld â nhw i helpu i arbed arian yn ystod yr argyfwng costau byw.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn gwybod y bydd llawer o breswylwyr a theuluoedd yn poeni am yr argyfwng costau byw, felly rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi.

"Yn ogystal â'r cymorth ariannol rydym yn ei ddarparu drwy Lywodraeth Cymru i helpu pobl gyda'u biliau tanwydd y gaeaf hwn, mae gennym hefyd lawer o barciau a mannau awyr agored hardd y gall teuluoedd eu mwynhau am ddim.

"Gyda lliwiau'r hydref yn dechrau ymddangos, mae'n amser gwych i ymweld â'n parciau - boed hynny i ddiddanu'r plant am rai oriau neu i gael ychydig o awyr iach wrth i chi fynd am dro i ymlacio a chodi'ch hwyliau.

"Mae ein parciau ymysg llawer o leoedd yn Abertawe lle gall pobl wneud yn fawr o weithgareddau am ddim neu gost isel. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynnwys ar wefan cymorth costau byw'r cyngor, sydd hefyd yn cynnwys adrannau ar gefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a'r cyllid posib sydd ar gael i aelwydydd cymwys."

Ers i'r wefan cymorth costau byw fynd yn fyw ym mis Medi, mae'r wefan wedi cael ei gweld dros 40,000 o weithiau. Mae adrannau eraill o'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am gymorth i ddod o hyd i waith a manylion ynghylch sefydliadau arbenigol, annibynnol sy'n darparu cyngor am ddim ar gymorth dyled.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw am ragor o wybodaeth.

Close Dewis iaith