Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyma hi! Rhestr fer Gwobrau Chwaraeon Abertawe

Mae amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau chwaraeon cymunedol sy'n perfformio'n dda wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022.

Sports Awards Presentation

Sports Awards Presentation

Cyngor Abertawe sydd y tu ôl i'r cynllun sy'n dychwelyd ar ôl seibiant o dair blynedd, a bydd digwyddiad y gwobrau'n cael ei gynnal fis nesaf.

 

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Cafwyd mwy na 100 o geisiadau ac roedd ansawdd yr enwebeion a'r hyn y maent yn ei wneud i'n cymunedau wedi creu argraff fawr ar ein tîm chwaraeon ac iechyd."

 

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 30 Mawrth yn Neuadd Brangwyn. Anogir teuluoedd, ffrindiau a chyd-chwaraewyr i fod yn bresennol i gefnogi'r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

 

Cynhelir y digwyddiad mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.

 

Rhagor: croesobaeabertawe.com

 

Rhestr fer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2022

 

Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn a noddir gan Arvato CRM Solutions

·        Ben Fox

·        Caleb Alexander Morrison

·        Sienna Allen Chaplin

 

Gwirfoddolwr y Flwyddyn a noddir gan John Pye Auctions

·        Mark Evans

·        Stacey Bowles

·        Kim Davies

 

Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn a noddir gan Chwaraeon Cymru

·        Darren Williams

·        Alison Brown

·        Craig Bowles

 

Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn a noddir gan Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe

·        Hayley Baker

·        Adam Baker a Stuart McNarry

·        Dr Shaun Davies

 

Chwaraewr Iau'r Flwyddyn a noddir gan Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe

·        Morgan Harvey

·        Kieron Heuberger

·        Cedric Davies

·        Tomas Roberts

 

Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn a noddir gan Edenstone Group

·        Libby Hale

·        Alana Parez

·        Mabli Collyer

·        Matilda Quick

 

Tîm Ysgol y Flwyddyn a noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe

·        Tîm Pêl-droed Ysgol Gynradd Pontybrenin

·        Tîm Pêl-droed Merched Ysgol Gynradd Penyrheol

·        Tîm Tennis Merched dan 13 Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

 

Clwb neu Dîm Iau y Flwyddyn a noddir gan Peter Lynn and Partners

·        Tîm dan 15 Clwb Rygbi Treforys

·        Tîm Merched dan 15 Harriers Abertawe

·        Adran Ieuenctid Clwb Hoci Abertawe

 

Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

·        Clwb Treiathlon Bro Tawe

·        Tîm Para-bowlio Cymru Gemau'r Gymanwlad

·        Clwb Criced Abertawe

 

Annog Abertawe Actif a noddir gan Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru

·        Paul Davies

·        Sophie Pennino, Ellie Pennino, Annabel Williams

·        Prosiect Parc Sglefrio Llandeilo Ferwallt

 

Chwaraewr Anabl Iau'r Flwyddyn a noddir gan Evolve Physiotherapy

·        Sienna Allen Chaplin

·        Callum Williams

 

Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd a noddir gan First Cymru

·        Paul Karabardak

·        Benjamin Pritchard

·        Harrison Walsh

 

Chwaraewr y Flwyddyn a noddir gan McDonald's

·        Non Stanford

·        Megan Carter-Davies

·        Medi Harris

 

Llun: Gwobr yn cael ei chyflwyno yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe yn y gorffennol.

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023