Awgrymiadau i fusnesau gan entrepreneur taflu bwyeill
Bydd busnesau newydd a darpar entrepreneuriaid yn Abertawe yn cael y cyfle i gael eu hysbrydoli gan y dyn y tu ôl i'r fenter taflu bwyeill yng nghanol y ddinas yn fuan.
Cynhelir y clwb menter i fusnesau newydd, a drefnwyd gan Gyngor Abertawe, yn Lumberjack Axe Throwing yn Dillwyn Street rhwng 10am a 11.30am ddydd Mawrth 24 Hydref.
Bydd Matthew Griffin, sefydlydd a chyfarwyddwr y cwmni, wrth law i esbonio sut y gall brwdfrydedd helpu i annog busnesau i oresgyn rhwystrau a chyflawni nodau.
Sefydlodd yr entrepreneur 26 oed Lumberjack Axe Throwing yn 2019. Mae gan y busnes leoliad yng Nghaerdydd hefyd.
Yn 2020 enillodd Matthew acolâd Person Busnes Ifanc y Flwyddyn yn ystod Gwobrau Busnes Caerdydd.
Mae e' hefyd wedi lansio ystafell rhithrealiti yn ddiweddar yn Lumberjack Axe Throwing yn Abertawe, gan roi'r cyfle i bobl ddefnyddio pensetiau i chwarae amrywiaeth o gemau antur a phosau.
Ariennir y digwyddiadau clwb menter i fusnesau newydd gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Meddai Matthew, sydd hefyd wedi bod yn saer coed hunangyflogedig, "Gwelais y potensial ar gyfer busnes gweithgaredd taflu bwyeill am y tro cyntaf pan welais y gweithgaredd yn cael ei wneud yn Llundain a sylweddolais fod bwlch yn y farchnad yn ne Cymru.
"Mae'n weithgaredd y mae pawb yn gallu'i brofi a'i fwynhau.
"Mae nifer o bobl yn Abertawe gyda syniadau gwych ar gyfer busnesau, felly rydw i'n edrych ymlaen at gwrdd â phawb sy'n bresennol yn y clwb menter i fusnesau newydd a siarad am fy argymhellion a fy mhrofiadau gyda busnes hyd yn hyn."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Matthew yn enghraifft wych ar gyfer darpar fusnesau gan ei fod yn gallu esbonio'n uniongyrchol sut y mae ei frwdfrydedd a'i gymhelliad wedi arwain at fusnes llwyddiannus.
"Mae'r clwb menter i fusnesau newydd a phobl â syniadau ar gyfer busnesau yn un o'r ffyrdd y mae ein tîm cefnogi busnes wrth law i helpu busnesau Abertawe.
"Mae hefyd digwyddiad awr bŵer rheolaidd gydag argymhellion ar gyfer busnesau yn ogystal â chyfres o grantiau ar gyfer busnes sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU."
Ewch yma i gadw lle ar gyfer y digwyddiad ar 24 Hydref yn Lumberjack Axe Throwing yn Abertawe.
Gall busnesau hefyd fynd i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael rhagor o wybodaeth am feysydd gan gynnwys cyfleoedd ariannu, cyngor ar recriwtio a hyfforddi a chymorth digidol a chydag adnoddau ar-lein.