Toglo gwelededd dewislen symudol

Lle Llesol Abertawe yn dod â phobl ynghyd ac yn chwalu rhwystrau

Mae sefydliad sy'n gweithio i gefnogi pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn Abertawe yn un o'r 70 o grwpiau sydd wedi sicrhau cyllid tuag at gynnal lleoedd diogel, cynnes a chroesawgar y gall pobl fynd iddynt y gaeaf hwn.

BAME Mental Health Support (BMHS) Swansea Space

BAME Mental Health Support (BMHS) Swansea Space

Mae gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl BAME ar y Stryd Fawr yn cynnal sesiynau galw heibio a gweithgareddau trefnedig drwy gydol yr wythnos

Bellach mae dros 80 o leoedd ar gyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe, y gellir eu cyrchu yma: https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe gyda chefnogaeth cymunedau'r ddinas.

Roedd un o wirfoddolwyr BMHS, Adebukola Okunade, yn gweithio o'r hwb, a dywedodd fod llawer o weithgareddau lles trefnedig yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos ac yn ystod y penwythnos a bod y gweithgareddau hynny'n cynnwys rhai yn y ganolfan ac yn yr awyr agored neu ar wibdeithiau.

Mae cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe yn cynnwys rhestr o leoedd cynnes, croesawgar a diogel y gall pobl fynd iddynt am ddim ac mae mewn ymateb i'r argyfwng costau byw.

Maent ar gael ar draws Abertawe ac mae rhywbeth i bawb o bob oedran a diddordeb.

Ymwelodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam â swyddfeydd BMHS y mis hwn.

Meddai, "Roeddwn i wrth fy modd yn cael cwrdd â'r gwirfoddolwyr a rhai o'r defnyddwyr a chael cyfle i ddysgu pa mor bwysig yw'r gwasanaeth hwn iddyn nhw."

Close Dewis iaith