Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffefrynnau diwylliannol y ddinas yn dathlu hanes pobl dduon

Mae lleoliadau diwylliannol yng nghanol dinas Abertawe a'r cyffiniau'n rhan o fenter ar draws y DU i ddathlu llwyddiannau pobl dduon o Brydain.

The World Reimagined at the Glynn Vivian

The World Reimagined at the Glynn Vivian

Mae Arddangosfa Dylan Thomas, y Llyfrgell Ganolog ac Oriel Gelf Glynn Vivian y cyngor yn nodi dathliad blynyddol Mis Hanes Pobl Dduon yn ystod mis Hydref.

Byddant yn ymuno â'r fenter gelfyddydau genedlaethol The World Reimagined,sydd wedi credu llwybr celf cyhoeddus sy'n cynnwys globau enfawr ar draws canol y ddinas. Mae pob glôb, a ddyluniwyd gan artistiaid, yn adlewyrchu'r angen am gydraddoldeb hiliol.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliott King, "Mae ein lleoliadau diwylliannol yn fannau gwych i fod ar bob adeg o'r flwyddyn ac yn enwedig y mis hwn, pan maent yn nodi sut mae pobl dduon wedi helpu i ffurfio'n cymunedau."

Cynhelir Mis Hanes Pobl Dduon drwy gydol mis Hydref. Lansiwyd llwybr celf The World Reimaginedyn Abertawe yn ystod yr haf a bydd yn aros yno i bawb ei fwynhau tan ddiwedd y mis hwn.

Rhagor:

 

 

Close Dewis iaith