Cyfle i fusnesau elwa o gynllun mawr newydd ar gyfer canol y ddinas
Bydd busnesau ledled Abertawe yn elwa o becynnau gwaith sy'n rhan o ddatblygiad newydd allweddol yng nghanol y ddinas.
Mae digwyddiad cwrdd â'r prynwr ar-lein yn cael ei gynnal i helpu i hysbysu busnesau cadwyn gyflenwi am gyfleoedd yn natblygiad hwb cymunedol y cyngor yn hen adeilad BHS/What!.
Bydd y digwyddiad a gynhelir gan y prif gontractwr, Kier Construction, yn digwydd ddydd Mercher 12 Hydref. Gellir trefnu apwyntiadau un i un ar-lein: www.bit.ly/BHSmtb.
Bydd amrywiaeth eang o becynnau i is-gontractwyr ar gyfer y prosiect yn amrywio o waith dur a waliau gwyrdd i waith coed, teils ceramig a balwstradau.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd datblygu'r cyfleuster mawr newydd hwn yn creu swyddi i gannoedd o bobl ac mae'r digwyddiad cwrdd â'r prynwr hwn yn gam cyntaf pwysig."
Mae'r hwb cymunedol yn rhan o raglen adfywio'r cyngor sy'n werth £1bn sy'n parhau i fynd rhagddi.
Bydd o gymorth mawr i'r cyhoedd sy'n dymuno cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys gwasanaethau'r cyngor a'r gymuned a phrif wasanaeth llyfrgell ac archifau'r ddinas.
Mae'r cwmni adeiladu blaenllaw, Kier Construction, yn gweithio gyda'r cyngor i gyflawni'r prosiect proffil uchel.
Meddai Cyfarwyddwr Rhanbarthol y cwmni, Jason Taylor, "Rydym yn awyddus i gwrdd â chynifer o fusnesau lleol â phosib; mae llawer iawn o egni ac arbenigedd ar gael yn lleol."
Disgwylir i'r gwaith ddechrau o ddifri' yn yr hydref.
Llun: Sut y gallai hwb cymunedol newydd canol dinas Abertawe edrych.