Buddsoddiad sylweddol wedi'i gynllunio ar gyfer mwy o ysgolion y ddinas
Mae mwy o ysgolion yn Abertawe ar fin gweld buddsoddiad sylweddol mewn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau newydd.
Mae gwelliannau sylweddol wedi'u cynllunio ar gyfer Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac Ysgol Tre-gŵyr, ac mae ysgol arbennig newydd sbon ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd wedi'i chynnwys yng ngham nesaf rhaglen Band B.
Mae'r ysgol arbennig newydd sbon sydd wedi'i chynllunio yn destun proses ymgynghori statudol.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ystyried opsiynau ar gyfer hen safle Daniel James ym Mynydd-bach.
Mae'r diweddaraf wedi'i gynnwys mewn adroddiad a fydd yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Abertawe'r wythnos nesaf.
Mae Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn isadeiledd ysgolion yn y ddinas dros y degawd diwethaf.
Ymysg y prosiectau diweddaraf a gwblhawyd mae adeiladau newydd sbon ar gyfer YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw, estyniadau newydd a gwaith ailwampio yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, ac ysgol newydd sbon o'r enw Maes Derw ar gyfer rhai o ddysgwyr mwyaf agored i niwed y ddinas.