Gwaith i adeiladu sgubor chwaraeon gwerth £7m yn mynd rhagddo
Mae gwaith yn mynd rhagddo'n awr i adeiladu cyfadeilad chwaraeon a hamdden £7m a fydd o fudd i filoedd o bobl ar draws Abertawe.
Cynhaliwyd seremoni torri'r dywarchen ar safle'r sgubor chwaraeon newydd yng Nghanolfan Hamdden ac Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn ardal Eastside y ddinas.
Bydd yn cynnwys cae dan do 3G, ystafell ffitrwydd newydd, caffi, stiwdio hyblyg, ystafelloedd newid, mynedfa newydd, parcio a mannau awyr agored.
Ymunodd disgyblion o Gefn Hengoed ag arweinwyr y prosiect yr wythnos hon, a siaradodd pennaeth yr ysgol, Carl Bale, am y cyffro sy'n gysylltiedig â'r datblygiad.
Meddai Mr Bale, "Bydd y datblygiad hwn o fudd i ddisgyblion Cefn Hengoed yn ogystal â'r gymuned gyfan. Mae'n gyfnod cyffrous i Eastside Abertawe."
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru, gyda grant o £750,000 gan yr Uwch-gynghrair, y Gymdeithas Bêl-droed, a Sefydliad Pêl-droed y Llywodraeth, gyda chymorth Sefydliad Dinas Abertawe. Gwnaed cyfraniadau pellach gan Chwaraeon Cymru, yn ogystal â Freedom Leisure, sy'n rheoli'r ganolfan hamdden ar ran y cyngor.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Bydd y cyfleuster hwn yn un o safon nad yw'n debyg i unrhyw gyfleuster arall yn Abertawe, a bydd miloedd o bobl o bob oedran yn Abertawe'n elwa ohono."