Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i adfer pont hanesyddol yn symud cam ymlaen

Mae cam mawr newydd ar fin cael ei gymryd i atgyweirio ac adfer tirnod hanesyddol yn Abertawe,

Bascule Bridge

Bascule Bridge

Bydd yn helpu i arwain at ddychwelyd Pont Wrthbwys Glandŵr sy'n 112 oed i'w safle gwreiddiol.

Clustnodwyd yr adeiledd gan Gyngor Abertawe fel un o nodweddion treftadaeth allweddol dyfodol disglair safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.

Y nod yw ailosod y bwa dur 70 tunnell yn ei safle'n croesi afon Tawe. Mae'r gwaith adfer, ar ffurf ymchwiliadau manwl, atgyweiriadau adeileddol a phaentio, wedi cael ei wneud yn Afon Engineering, Bro Tawe ers 2019.

Ar ôl archwilio gwaith pren y bont sy'n helpu i gynnal y lled, mae'r cyngor yn awr yn chwilio am fusnes arbenigol i atgyweirio'r elfennau pren.

Mae swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, CADW, ar y prosiect.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Mae ein gwaith manwl hyd yn hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i symud i'r cam nesaf sef atgyweirio ac adfer y bont wych hon sydd wedi goroesi hanes diwydiannol Abertawe."

Meddai cyd-aelod o'r Cabinet, Mark Thomas, "Bydd adfer y gwaith pren yn waith arbenigol ac rydym yn gobeithio dechrau hynny'n gynnar yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser byddwn yn symud y bwa o Afon Engineering i gartref newydd dros dro yn agos i hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa sy'n cael ei adfer ar hyn o bryd.

"Mae'r gwaith yn hanfodol i atal dirywiad pellach a'r risg o golli'r bont restredig Gradd Dau hon sy'n Heneb Gofrestredig yn swyddogol. Bydd unrhyw oedi pellach yn arwain at golli'r dreftadaeth werthfawr sy'n rhan bwysig o stori Abertawe.

"Bydd ein gwaith ar y bont yn ategu'r hyn rydym yn ei wneud i ddatblygu cyrchfan i dwristiaid yn y gwaith copr; denodd hyn gwerth £3.75m o gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer y Pwerdy i'w ddefnyddio gan Ddistyllfa Penderfyn fel atyniad i ymwelwyr."

Meddai Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters, "Rwy'n falch ein bod wedi gallu cyfrannu at y prosiect pwysig hwn drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi sy'n cefnogi adferiad economaidd a chymdeithasol ein canol trefi a dinasoedd ledled Cymru."

Meddai Louise Mees, arolygydd rhanbarthol henebion CADW, "Roedd y Bont Wrthbwys yn ganolog i amser yr ardal fel prif ganolfan gopr y byd ac mae'n rhan unigryw o dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe. 

"Fe'i hadeiladwyd ym 1909 i gludo deunyddiau a gwastraff rhwng dau waith copr ar bob ochr i afon Tawe. Roedd hi'n golynnog fel y gellid ei chodi i ganiatáu i longau â hwylbrennau uchel a gludai gargo a masnach i bedwar ban byd ac yn ôl, lywio'r afon."

Roedd y bont yn hollbwysig i amser yr ardal fel prif ganolfan copr y byd. Byddai ei adeiledd dur colynnog yn codi i ganiatáu i draffig yr afon fynd ar ei hynt.

Ariannwyd y prif waith cychwynnol ar yr elfennau dur yn rhannol gan gymorth cyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyllid gan y cyngor.

Mae'r busnesau sy'n ymwneud â'r gwaith yn cynnwys y prif gontractwr Griffiths a'r peirianwyr adeiladu/ymgynghorwyr Mann Williams.

Llun: Pont Wrthbwys Abertawe cyn iddi gael ei symud dros dro i'w hadfer.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022