Gwaith i adfer pont hanesyddol gam yn nes
Mae camau newydd yn cael eu cymryd i atgyweirio ac adfer un o dirnodau hanesyddol Abertawe.
Bydd y gwaith yn helpu i arwain at ddychwelyd Pont Wrthbwys 115 oed Glandŵr i'w safle gwreiddiol.
Mae'r adeiledd wedi'i glustnodi gan Gyngor Abertawe fel un o nodweddion treftadaeth allweddol dyfodol disglair safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa - sy'n rhan o gynlluniau gwerth £1bn i adfer y ddinas a arweinir gan y cyngor.
Y nod tymor hir yw ailosod y bwa dur 70 tunnell yn ei safle'n croesi afon Tawe - ar ôl i'w drawstiau ategol gael eu cryfhau a'u hadnewyddu maes o law.
Mae'r trawst mawr arbenigol cyntaf bellach yn nwylo'r cyngor. Mae contractwyr ar safle'r bont i ymgymryd â gwaith paratoi a fydd yn para am oddeutu mis.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y cyngor, "Mae ein gwaith manwl hyd yn hyn yn golygu ein bod bellach yn symud i gam nesaf y broses o adfer y rhan hyfryd hon o hanes diwydiannol Abertawe sydd wedi goroesi.
"Mae gwaith yn hanfodol er mwyn atal yr adeiledd rhestredig gradd II hwn, sydd hefyd yn heneb gofrestredig, rhag pydru ymhellach a chael ei golli."
Meddai Andrew Stevens, Aelod arall o'r Cabinet, "Mae adfer y trawstiau'n waith arbenigol a byddwn yn symud ymlaen gyda hynny ar ôl rhagor o waith dylunio.
"Bydd ein gwaith ar y Bont Wrthbwys yn ategu'r gwaith rydym yn ei wneud i ddatblygu cyrchfan twristiaeth o'r radd flaenaf ar safle'r gwaith copr."
Mae'r cwmni diodydd Penderyn eisoes yn cynnal atyniad i ymwelwyr ar safle'r gwaith copr ac mae cynlluniau gan y cyngor i achub adeiladau eraill ar y safle a'u paratoi at ddibenion newydd yn y dyfodol - fel rhan o'i raglen adfywio gwerth £1bn i Abertawe.
Gwnaed y gwaith adfer ar brif fwa'r bont yn Afon Engineering, Bro Abertawe, a chaiff hwn ei gadw yng Nglandŵr bellach wrth iddo aros i gael ei ailosod ar draws afon Tawe yn y dyfodol.
Caiff y pentanau pren newydd a chryfach eu gosod yn ystod cam arall o'r gwaith yn y dyfodol.
Mae swyddogion y Cyngor yn parhau i weithio'n agos ar y prosiect gyda gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sef Cadw. Daeth rhywfaint o gyllid ar gyfer y bont drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae'r busnesau sydd wedi cyfrannu at y gwaith hyd yn hyn wedi cynnwys Griffiths, y contractwr o Gymru, a Mann Williams, y peirianwyr adeileddol/ymgynghorwyr profiadol.