Toglo gwelededd dewislen symudol

Taith Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 i ymweld ag Abertawe

Cadarnheir y bydd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 yn ymweld ag Abertawe yn ystod ei thaith olaf cyn trosglwyddo i Loegr yr haf hwn.

Tigers Parachute Team

Tigers Parachute Team

Disgwylir i daith gyfnewid y baton deithio drwy Gymru dros 5 niwrnod, cyn dychwelyd i Loegr a diweddu yn y Seremoni Agoriadol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham ar 28 Gorffennaf 2022.

Bydd y baton yn dechrau ar ei daith ddydd Mercher 29 Mehefin yn Ynys Môn yng ngogledd Cymru, ac yn teithio i lawr y wlad ac ar draws de Cymru, gydag uchafbwynt yn Abertawe ddydd Sul 3 Gorffennaf. Mae amserlen brysur o weithgareddau a digwyddiadau yn yr arfaeth ar gyfer Taith Gyfnewid Baton y Frenhines, gyda chyfleoedd i dynnu sylw at straeon nas adroddwyd gan gludwyr y baton sy'n ymdrechu i sicrhau newid yn eu cymunedau. Disgwylir i Daith Gyfnewid Baton y Frenhines gyrraedd Abertawe ar 3 Gorffennaf yn ystod Sioe Awyr Cymru. Trefnir y Sioe Awyr gan Gyngor Abertawe ac fe'i cynhelir ar 2 a 3 Gorffennaf.

Mae'r amserlen weithgareddau arfaethedig ar gyfer cyrhaeddiad y baton ar 3 Gorffennaf yn Abertawe yn cynnwys:

  • Cyrraedd drwy ollyngiad parasiwt gyda Thîm Arddangos Parasiwt y Tigers - os yw'r tywydd yn caniatáu
  • Taith gyfnewid y baton yn mynd tua'r gorllewin ar hyd rhan fer o'r prom yna tua'r dwyrain ar hyd y traeth i ardal y Ganolfan Ddinesig.

Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae gennym restr wych o gludwyr baton i gynrychioli'n cymunedau. Gyda'n cyfeillion yn y Tigers, bwriadwn i'r baton gyrraedd mewn ffordd ddramatig dros Fae Abertawe."

Mae cludwyr baton Abertawe yn cynnwys llysgennad ieuenctid Cyngor Hil Cymru Gabriel Udoh, beiciwr BMX Tîm GB James Jones a sefydlydd Surfability UK, Ben Clifford.

Bydd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes a cyn-nofiwr Cymru a Thîm GB Georgia Davies.

Bydd cludwyr eraill y baton yn cynnwys Cadet yr Arglwydd Raglaw, Victoria Symes, gwirfoddolwyr cymunedol a'r codwyr arian Craig a Stacey Bowles, y medalydd Paralympaidd Paul Karabardak, a Johnny Davies, mab y diweddar Gerallt Davies, cyn-gomisynydd Gorllewin Morgannwg gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru.

Taith Gyfnewid Baton y Frenhines Birmingham 2022 birmingham2022.com/qbr

Llun: Tîm Arddangos Parasiwt y Fyddin 'The Tigers'

 

 

Close Dewis iaith