Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynnydd i'r ffatri gynhyrchu ar gyfer cynllun gwerth £1.7m Eden Las

Mae cynlluniau ar gyfer ffatri gynhyrchu newydd pwysig yn Abertawe, a fydd yn creu cannoedd o swyddi â chyflog da, yn gwneud cynnydd sylweddol.

Batri manufacturing plant

Batri manufacturing plant

Bydd y ffatri 60,000 metr sgwâr, sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer llain o dir ger Langdon Road yn ardal SA1 y ddinas yn gwneud batris uwch-dechnoleg ar gyfer y sector adnewyddadwy.

Mae'r ffatri newydd arfaethedig yn ffurfio rhan o brosiect gwerth £1.7bn Eden Las a ddatblygwyd gan gonsortiwm rhyngwladol, sydd wedi'i arwain gan DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr.

Cytunwyd ar benawdau telerau mewn egwyddor rhwng cyngor Abertawe a'r sefydliad am y llain o dir, sy'n eiddo i'r cyngor ar hyn o bryd.

Bydd y datblygiad yn dod â'r dechnoleg ynni ddiweddaraf i Abertawe, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o'r byd, a bydd yn cynnwys dwsinau o byrth gwefru arloesol i fodurwyr wefru eu cerbydau ag ynni adnewyddadwy.

Caiff cyfleusterau newydd eu hadeiladu i arddangos y dechnoleg batris uwch-dechnoleg, ynghyd â lolfa i ymwelwyr sy'n cynnwys amgylchedd gweithio uwch-dechnoleg a mannau lluniaeth poblogaeth.

Clustnodir gwaith adeiladu i gychwyn y flwyddyn nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Abertawe ac ar yr amod bod pob caniatâd cynllunio wedi'i roi.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r ffatri cynhyrchu batris yn elfen allweddol o brosiect Eden Las felly mae hwn yn ddatblygiad cyffrous. Bydd yn creu miloedd o swyddi tra medrus i bobl leol ac yn rhan o brosiect cyffredinol a fydd yn sicrhau bod Abertawe'n flaenllaw o ran arloesedd ynni adnewyddadwy.

"Rwy'n falch iawn bod cynnydd yn cael ei wneud mor gyflym ar gynllun Eden Las a fydd yn rhoi hwb pellach i'n heconomi, wrth leihau ein hôl troed carbon a chodi proffil Abertawe ar draws y byd fel lle i fuddsoddi ynddo.

"Bydd Eden Las yn cael ei ariannu'n llwyr gan y sector preifat a bydd yn dilyn rhaglen fuddsoddiad gwerth £1bn yn Abertawe sy'n trawsnewid ein dinas yn un o'r mannau gorau oll i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef.

Meddai Tony Miles, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr DST Innovations, "Mae hwn yn gam mawr yn nhaith Eden Las.

"Bydd Abertawe'n gartref i Batri ac yn cynhyrchu technoleg storio ynni sy'n cyflymu'r newid i ynni adnewyddadwy ac yn helpu sefydliadau gyflawni'u nodau sero-net.

"Bydd Batri yn creu rolau tra medrus yn Abertawe ac yn arwain y byd yn yr oes werdd newydd hon."

Bydd y morlyn llanw a ddyluniwyd yn ddiweddar a fydd yn rhan o Eden Las yn cynnwys tyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf, a fydd yn cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy o'r adeiledd 9.5km.

Mae prosiect Eden Las y disgwylir iddo gael ei gyflwyno mewn tri cham dros 12 mlynedd, hefyd yn cynnwys 72,000 metr sgwâr o baneli solar arnofiol, canolfan ddata 94,000 metr sgwâr a chanolfan ymchwil y dyfroedd a newid yn yr hinsawdd.

Bwriedir codi cartrefi preswyl ar y glannau i 5,000 o bobl ynghyd â thua 150 o eco-gartrefi hynod ynni effeithlon arnofiol, wedi'u hangori'n barhaol yn Noc y Frenhines.

Caiff Eden Las ei lleoli ar hyd ardal helaeth o dir a dŵr, i'r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 Abertawe.

Bydd y prosiect yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.

Datblygwyd Eden Las yn dilyn trafodaethau'n seiliedig ar weledigaeth a gynigiwyd gan dasglu rhanbarthol dan arweiniad Cyngor Abertawe.