Llyfrgell benthyca teganau newydd ar gyfer teuluoedd sy'n ymweld â'r traeth
Mae llyfrgell hollol wahanol wedi agor ger traeth Abertawe.
Yn hytrach na benthyca llyfrau neu ffilmiau, mae'r Llyfrgell Traeth newydd ar gael i deuluoedd fenthyca bwcedi, rhawiau a theganau eraill.
Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â The Secret Beach Bar & Kitchen er mwyn darparu'r fenter.
Caiff y teganau eu storio mewn cynhwysydd ac mae croeso i deuluoedd fenthyca beth bynnag y mynnant am ddim.
Gallant eu defnyddio ar y traeth ac yna'u dychwelyd cyn mynd adref.
Bydd ar agor bob diwrnod o'r flwyddyn.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 20 Awst 2024