Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor ar wirio budd-daliadau i helpu i leddfu pryderon ariannol

Mae preswylwyr Abertawe sy'n pryderu am effaith gwario dros y Nadolig yn cael eu hannog i wirio eu bod nhw'n derbyn yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

View of Swansea

View of Swansea

Mae dolenni i gyfrifianellau budd-daliadau ar-lein ar gael ar wefan cymorth costau byw siop dan yr unto a sefydlwyd gan Gyngor Abertawe i helpu i sicrhau nad yw pobl yn colli allan.

Hefyd wedi'i gynnwys ar y wefan mae trosolwg o'r wahanol fudd-daliadau sydd ar gael, yn ogystal â dolenni i nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol a all rhoi cyngor.

Mae adrannau eraill y wefan yn rhoi manylion ynghylch Lleoedd Llesol Abertawe a sefydlwyd i roi croeso cynnes i breswylwyr y gaeaf hwn.

Ers mynd yn fyw yn yr hydref, mae bron 130,000 o bobl eisoes wedi edrych ar dudalennau'r wefan cymorth costau byw.

Meddai'r Cynghorydd Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Gwell, "Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn anodd iawn i nifer o breswylwyr a fydd yn wynebu canlyniadau ariannol gwario arian dros y Nadolig.

"Mae effaith hyn a'r argyfwng costau byw yn golygu y bydd rhai teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd, ond un o'r pethau pwysicaf y dylai pobl ei ystyried yw a ydynt yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

"Mae biliynau o bunnoedd o fudd-daliadau prawf modd nad ydynt yn cael eu hawlio yn y DU bob blwyddyn, a dyma pam rydym wedi sicrhau bod dolenni i gyfrifianellau budd-daliadau ar gael ar-lein i helpu i sicrhau nad yw preswylwyr Abertawe'n colli allan.

"Mae hyn ymysg yr adnoddau niferus sydd ar gael ar ein gwefan cymorth costau byw siop dan yr unto, sydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau cyfeirio i gyngor ar ddyled, ynghyd ag awgrymiadau am sut i ddod o hyd i gyflogaeth ac arbed arian ar filiau tanwydd."

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw am ragor o wybodaeth.

Gall preswylwyr nad oes ganddynt fynediad at ffôn clyfar na chyfrifiadur ddefnyddio'r wefan am ddim mewn unrhyw lyfrgell gymunedol ar draws y ddinas.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023