Cannoedd o blant ysgol yn cerdded ac yn beicio
Mae cannoedd o blant ysgol yn Abertawe'n cymryd rhan mewn digwyddiad beicio a cherdded ar draws y DU.


Mae dros 20 o ysgolion cynradd yn y ddinas wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad 'Stroliwch a Rholiwch' Sustrans, a fydd yn digwydd rhwng 24 Mawrth a 4 Ebrill.
Ei nod yw annog plant ysgol i gerdded, beicio neu reidio sgwter i'r ysgol, gan fagu hyder, gwydnwch ac arferion iechyd gydol oes i ddisgyblion.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'n wych gweld cynifer o ysgolion yn Abertawe'n cymryd rhan yn nigwyddiad Sustrans ac yn dysgu am fanteision cadw'n actif ac yn iach."