Ysgol yn ymdrechu i sicrhau ansawdd, rhagoriaeth a chyflawniad yn ôl Estyn
Yn ôl arolygwyr, mae Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan yn effeithiol iawn wrth godi dyheadau disgyblion o bob cefndir i'w helpu i gyflawni eu llawn botensial.


Dywedon nhw fod gwerthoedd Catholig cryf yn sail i bob agwedd ar waith yr ysgol, ac mae ei diwylliant yn cynnwys dathlu amrywiaeth, sicrhau tegwch ac ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth.
Dywedodd arolygwyr fod hyn yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn lle mae pob aelod o gymuned yr ysgol yn teimlo'n ddiogel a'i fod yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi.
Ymwelwyd â'r ysgol gan dîm o Estyn yn gynharach eleni ac mae bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad.
Mae'n dweud: "Mae gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel, maent yn adnabod yr ysgol yn dda ac maent yn adeiladu cysylltiadau cryf â'r gymuned ehangach.
"Mae darpariaeth yr ysgol yn diwallu anghenion pob disgybl yn dda, gan gynnwys ei disgyblion mwyaf agored i niwed. Mae hyn yn cyfrannu'n sylweddol at les disgyblion a'u mwynhad o ddysgu."