Uwchraddio i fand eang cyflym iawn yn Llandeilo Ferwallt
Mae Openreach wedi cyhoeddi y gallai cartrefi a busnesau cymwys yn Llandeilo Ferwallt gael gwell band eang cyn hir gyda chefnogaeth cynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU.
Mae Openreach wedi nodi bod Llandeilo Ferwallt o fewn cwmpas band eang ffeibr llawn a gallai cysylltedd rhyngrwyd gwael yn yr ardal fod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol cyn bo hir.
Mae trigolion cymwys eisoes wedi dechrau addo Talebau Gigabit i ddod â band eang ffeibr llawn i'r cymunedau hyn trwy wneud cais am Dalebau Gigabit y Llywodraeth am ddim a'u cyfuno i helpu i ariannu'r gwaith gosod.
Mae'r gwaith o uwchraddio band eang yn rhan annatod o roi hwb i dwf economaidd busnesau lleol, yn ogystal â sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau hanfodol sydd eu hangen arnynt nawr, ac yn y dyfodol. Er enghraifft, rhoi gwell mynediad i gleifion at ofal iechyd trwy apwyntiadau rhithwir a monitro iechyd o bell, ynghyd â gwell cysylltedd sy'n galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau i frwydro yn erbyn unigedd.
Mae band eang cyflym iawn yn cynnig gwell cyflymder, ac ni fydd yn arafu yn ystod adegau prysur, gan olygu dim mwy o frwydro am led band, gall y teulu cyfan syrffio'r we, ffrydio a lawrlwytho'n ddi-dor ar yr un pryd.
Er mwyn i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, byddai'r sawl sy'n gwneud cais am dalebau yn cyfateb i 76 o gartrefi a busnesau. Hyd yn hyn, mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda 87% o nifer yr addewidion ar gyfer y nod ariannu.
Gall trigolion wirio a ydynt yn gymwys ac ymrwymo eu talebau ar wefan Cysylltu fy Nghymuned.
Mae'r bartneriaeth gymunedol ffeibr newydd hon yn ychwanegol at y cynlluniau masnachol sydd eisoes ar waith i uwchraddio rhannau eraill o Landeilo Ferwallt, felly gall trigolion fod yn sicr, os ydynt yn byw yno, y byddant yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau i uwchraddio cysylltedd yr ardal honno.
Mae'r penderfyniad ar adeiladu'r seilwaith ffeibr, yr adeiladau a gwmpesir, a'r amserlen i gyd yn destun arolygon technegol, yn ogystal â nifer y talebau a addawyd gan y gymuned.
Nid yw'r talebau dilys yn costio dim i drigolion a bydd defnydd digonol yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi'i deilwra a'i ariannu ar y cyd. Gellir cyfuno'r talebau i ymestyn y rhwydwaith cyflym a dibynadwy iawn i adeiladau mewn ardaloedd gwledig anghysbell na fyddant yn cael eu cynnwys yn y buddsoddiad preifat.
Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru: "Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Llandeilo Ferwallt ddod â holl fanteision band eang ffeibr llawn cyflym a dibynadwy iawn i'w cymuned.
"Mae ein rhaglen Partneriaethau Ffeibr Cymunedol wedi golygu ein bod wedi gallu cynnwys miloedd o eiddo ychwanegol ledled Cymru a gweddill y DU yn ein cynlluniau adeiladu ffeibr llawn. Ond mae datblygu'r rhwydwaith yn y lleoliadau sy'n anoddach i'w cyrraedd yn dal i fod yn heriol, a dyna pam mae hyn dim ond yn bosibl gyda phawb yn cydweithio - chi, eich cymdogion ac Openreach.
"Bydd pawb sy'n addo eu talebau yn gwneud eu rhan i helpu i wneud eu cymuned yn un o'r lleoedd sydd â'r cysylltedd gorau yn y DU."
"Rydym yn buddsoddi £15 biliwn i roi band eang ffeibr llawn i 25 miliwn o gartrefi, a bydd mwy na chwe miliwn o'r rheiny yn nhraean yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd yn y DU - ond allwn ni ddim uwchraddio'r wlad gyfan ar ein pennau ein hunain. Mae'r cymorth diweddaraf hwn gan y llywodraeth yn rhan hanfodol o'r broses honno."
Pan fydd targed yr addewid ar gyfer y cynllun wedi'i fodloni, mae angen i drigolion sicrhau eu bod wedyn yn dilysu eu talebau gyda'r Llywodraeth fel y gall Openreach gadarnhau y gall gwaith ddechrau.
Fel rhan o'r amodau cyllido, gofynnir i drigolion ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr llawn gan ddarparwr o'u dewis am o leiaf 12 mis pan fydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau eu bod wedi'u cysylltu.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Mae cysylltedd digidol mor bwysig y dyddiau hyn i fusnesau yn ogystal â thrigolion a theuluoedd. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob cymuned yn Abertawe fynediad at y cysylltiad band eang gorau posibl.
"Mae cysylltedd digidol bellach wrth wraidd bywyd bob dydd, boed hynny'n fasnach ar-lein, mynediad at wasanaethau hanfodol, neu'r cyfryngau cymdeithasol ac aros mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.
"Mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn Llandeilo Ferwallt hyd yma yn galonogol iawn, ac rydym yn gobeithio gweld hynny'n cael ei ailadrodd ym mhob rhan o'r ddinas yn y dyfodol i sicrhau nad oes unrhyw un o'n cymunedau yn cael eu gadael ar ôl."
Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, gwydn sy'n diogelu'r dyfodol; gan olygu llai o ddiffygion; cyflymderau mwy rhagweladwy, cyson a digon o gapasiti i fodloni gofynion data cynyddol yn hawdd. Mae hefyd yn addas ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu y bydd yn gwasanaethu cenedlaethau i ddod ac na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.
Os ydych yn byw yn Abertawe ac os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch gwella eich band eang, siaradwch â'ch Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol. Claire Hughes - bandeang@abertawe.gov.uk