Disgyblion a staff wrth eu boddau wrth i'r gwaith gwerth £15 miliwn i drawsnewid yr ysgol gael ei gwblhau
Mae buddsoddiad gwerth £15 miliwn i drawsnewid cyfleusterau mewn ysgol gyfun yn Abertawe wedi'i gwblhau.
Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, David Hopkins, wedi agor Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, sydd wedi'i hadnewyddu a'i hailfodelu, yn swyddogol yr wythnos hon.
Gwnaed gwelliannau mawr i'r ysgol yn ystod y tair blynedd diwethaf, sy'n cynnwys estyniad deulawr newydd gan ddarparu labordai gwyddoniaeth, stiwdio ddrama o'r radd flaenaf ac ystafelloedd dosbarth celf, ac mae'r ysgol bellach yn elwa o dderbynfa newydd ac ardal uwch-arweinyddiaeth.
Mae gwaith uwchraddio'r gwasanaethau mecanyddol a thrydanol wedi'i wneud ar y safle cyfan gan wneud gwahaniaeth enfawr i'r ardaloedd addysgu a chymunedol.
Mae cost y prosiect gwerth £15 miliwn wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru fel rhan o fuddsoddiad gwerth £150 miliwn mewn ysgolion newydd ac ysgolion wedi'u gwella yn Abertawe dan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Meddai'r Cynghorydd Hopkins, "Rydym yn buddsoddi'r symiau uchaf erioed yn adeiladau ein hysgolion yn Abertawe i roi'r amgylchedd gorau posib i ddisgyblion a staff weithio a dysgu ynddynt."
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Dysgu, "Rwy'n eithriadol o falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yma yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn ogystal â'r holl welliannau mawr eraill sy'n cael eu gwneud yn ein hysgolion ar draws Abertawe.
"Rydym yn ddiolchgar i'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac mae'n rhaid i mi ddiolch i'r contractwyr, Kier Construction Western & Wales, a thîm arweiniol yr ysgol am gydweithio mor agos gyda'i gilydd i gadw unrhyw aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu cymhleth hwn i'r lleiaf posib.
Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, "Mae adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda mor bwysig ar gyfer dysgwyr a staff; i gefnogi lles a chyflawni safonau uchel a dyheadau i bawb.
"Rwyf am i'n hysgolion fod yn lleoedd ysbrydoledig i ddysgu ac addysgu ynddynt, a dyna pam rwyf wedi buddsoddi bron i £9.5 miliwn mewn gwelliannau i adeiladau Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, er mwyn darparu'r amgylchedd dysgu gorau posib i bawb ffynnu."
Dechreuodd y gwaith o uwchraddio ym mis Mehefin 2020 ac fe'i gwnaed fesul cam gyda'r ardaloedd a oedd wedi'u cwblhau yn cael eu trosglwyddo'n ôl i'r ysgol pan oeddent yn barod.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Jeff Bird, fod parhau i gynnal bywyd yr ysgol gyda chyn lleied â phosib o darfu wedi bod yn waith cymhleth ond bod y canlyniad terfynol wedi bod yn werth chweil.
Ychwanegodd, "Fel cymuned ysgol, rydym wrth ein bodd â'r gwaith adnewyddu ac ailfodelu a wnaed.
"Yn bwysicaf oll, mae'r amgylchedd dysgu wedi'i wella'n sylweddol ac mae'r cyfleusterau o'r radd flaenaf yn siŵr o gael effaith gadarnhaol ar addysg cynifer o ddisgyblion yn y dyfodol.
"Mae nifer sylweddol o ymwelwyr a rhieni eisoes wedi gwneud sylwadau ar y gwelliannau enfawr i'r ysgol a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud, ac mae ein disgyblion wedi mwynhau eu rolau fel llysgenhadon yn fawr drwy gydol y broses."