Toglo gwelededd dewislen symudol

Hediad Coffa Brwydr Prydain yn ymddangos yn Sioe Awyr Cymru

Bydd tair o awyrennau eiconig yr Ail Ryfel Byd yn dod â hanes yn fyw yn ystod Sioe Awyr Cymru eleni.

Lancaster Hurricane Spitfire

Lancaster Hurricane Spitfire

Byddant yn hedfan dros Fae Abertawe ar 2 a 3 Gorffennaf, a bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain yn arddangos tair o ddyrnaid yn unig o awyrennau sy'n hedfan o hyd dros 70 mlynedd ar ôl iddynt hedfan yn ystod y rhyfel.

Bydd yr Avro Lancaster, un o ddwy awyren fomio Lancaster sy'n addas i hedfan o hyd, yn diddanu selogion awyrennau wrth iddi hedfan mewn trefniant gyda Supermarine Spitfire a Hawker Hurricane uwchben y torfeydd enfawr a fydd yn sefyll mewn rhesi ar hyd y bae dros y digwyddiad deuddydd hwn.

Mae'r digwyddiad am ddim a gynhelir gan Gyngor Abertawe eisoes wedi cyhoeddi y bydd Red Arrows yr RAF yn perfformio ar ddeuddydd Sioe Awyr Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Gellir dadlau mai Hediad Coffa Brwydr Prydain yw un o'r arddangosfeydd hedfan fwyaf hanesyddol ac atgofus yn hanes Prydain.

"Heb yr awyrennau hyn, y peilotiaid a'r criwiau a'r miloedd o bobl a oedd yn gweithio ar y ddaear a gefnogodd ein milwyr a'r awyrennau bomio a oedd yn amddiffyn Prydain, gallai ein hanes fod wedi bod yn wahanol iawn.

"Gallwn weld hanes yn dod yn fyw wrth eu gwylio'n hedfan yn yr awyr dros Fae Abertawe ac rydym yn falch o'u cael yma yn y ddinas.

"Bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain, ynghyd ag awyrennau modern, arddangosiadau awyr erobatig ac adloniant ar y ddaear, yn un o'r arddangosiadau niferus y gall pobl eu mwynhau yn ystod Sioe Awyr Cymru."

Nod Hediad Coffa Brwydr Prydain, a gychwynnwyd ar 11 Gorffennaf 1957 yn Biggin Hill, yw cynnal a chadw'r awyrennau a fu'n amddiffyn Prydain yn yr Ail Ryfel Byd mewn cyflwr sy'n addas i hedfan i goffáu'r rheiny a laddwyd wrth wasanaethu'r wlad hon.

Dim ond dwy awyren fomio Lancaster sy'n addas i hedfan sydd ar ôl yn y byd allan o gyfanswm o 7,377 a adeiladwyd. Daeth y Lancaster PA474, a fydd yn hedfan yn Sioe Awyr Cymru, oddi ar y llinell gynhyrchu yn ffatri Vickers Armstrong Brychdyn ym Mhenarlâg ar 31 Mai, 1945 ac nid yw wedi cymryd rhan mewn unrhyw ryfela.

Daeth y Supermarine Spitfire, a oedd yn allweddol wrth drechu ymosodiadau awyr y Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain ym 1940, yn symbol o ryddid yn ystod y rhyfel ac ers hynny hi yw'r awyren ymladd Brydeinig enwocaf mewn hanes. Mae chwe Spitfire yn awyrendy Hediad Coffa Brwydr Prydain, allan o gyfanswm o 20,341 o awyrennau a adeiladwyd, mwy nag unrhyw awyren ymladd Brydeinig arall cyn neu ers yr Ail Ryfel Byd.

Ochr yn ochr â'r Spitfire, chwaraeodd yr Hawker Hurricane rôl hanfodol wrth amddiffyn Prydain mewn brwydrau gwyllt yn ystod haf 1940. Dinistriodd awyrennau Hurricane fwy o awyrennau'r gelyn yn ystod Brwydr Prydain na'r holl amddiffynfeydd awyr a thir eraill gyda'i gilydd. Mae Hediad Coffa Brwydr Prydain yn cynnal a chadw dwy o'r awyrennau ymladd anhygoel hyn: Hurricane LF363, y credir mai hon yw'r Hurricane olaf i fynd i wasanaeth yn yr RAF;  a Hurricane PZ865, yr Hurricane olaf i gael ei hadeiladu allan o gyfanswm o 14,533 o awyrennau.

Mae ffigurau'n dangos bod Sioe Awyr Cymru'n denu 250,000 o bobl yn rheolaidd ac amcangyfrifir ei bod yn werth mwy na £9 miliwn i'r economi leol.

Meddai'r Cynghorydd Francis-Davies, "Mae'r cyngor wrthi'n trefnu arddangosfeydd cyffrous ychwanegol dros yr wythnosau nesaf - ar y ddaear yn ogystal ag yn yr awyr. Bydd arddangosiadau cyffrous, awyrennau milwrol o'r radd flaenaf a hen awyrennau, wrth i ni geisio sicrhau bod Sioe Awyr Cymru 2022 yn well nag erioed!"

Darganfyddwch beth sydd ar ddod yn Sioe Awyr Cymru eleni