Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant yn helpu i dorri costau ynni ar gyfer eglwys gymunedol

Mae buddsoddi mewn technoleg werdd newydd wedi helpu eglwys ym Mhontarddulais i dorri ei hôl troed carbon ac arbed 90% ar ei biliau nwy misol.

Bont Elim Church

Bont Elim Church

Diolch i gyllid gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae dwsinau o baneli solar a nifer o bympiau gwres aer i aer wedi'u gosod yn Eglwys Gymunedol Bont Elim ar Alltiago Road.

Mae'r dechnoleg newydd eisoes wedi helpu i ddisodli rhai o'r boeleri nwy a'r pibellau copr sydd wedi bod yn yr eglwys ers tro.

Bydd y paneli solar a'r pympiau ffynhonnell aer i aer yn helpu i oeri adeilad yr eglwys yn ystod misoedd yr haf a'i gynhesu yn ystod y gaeaf.

Mae'n agos i 1,000 o bobl yn ymweld ag Eglwys Gymunedol Bont Elim bob wythnos i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau cymunedol sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae'r gweithgareddau yno'n cynnwys grwpiau dawns, ysgol Sul, aerobeg mewn cadair i bobl hŷn, dosbarthiadau iwcalili a siop goffi nid-er-elw.

Meddai'r Parchedig Jason Beynon, "Roedd cost gwresogi'r adeilad yn mynd yn ddrud iawn, felly roeddem mewn sefyllfa lle na fyddem efallai wedi gallu cynnal yr holl wasanaethau a ddarperir yn yr eglwys ar gyfer y gymuned.

"Ond mae hynny wedi newid nawr, yn sgîl cyflwyno'r pympiau aer-i-aer a phaneli solar sy'n golygu ein bod yn gallu torri ein hôl troed carbon, arbed arian ar ein biliau ynni a chynnal yr holl weithgareddau a grwpiau llwyddiannus a gynhelir yn yr eglwys.

"Mae ein bil nwy cyntaf ers i'r dechnoleg newydd gael ei gosod cyn y tywydd poeth diweddar yn dangos arbedion misol o 90% ac mae ansawdd ac oes y cyfarpar newydd yn golygu ein bod yn disgwyl arbedion tebyg yn y dyfodol.

"Mae'r heulwen ddiweddar a'n paneli solar newydd hefyd yn golygu na wariwyd unrhyw beth ar ynni mewn priodas ddiweddar ar ffurf yr hyn a geir yn Camerŵn a gynhaliwyd yn yr eglwys.

"Hoffem ddiolch i Gyngor Abertawe am ei holl gefnogaeth gan fod y grant hwn a gafwyd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gwneud gwahaniaeth yn barod."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn benderfynol o sicrhau bod cynifer o bobl a busnesau â phosib yn Abertawe yn elwa drwy ein dyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, felly mae clywed am yr effaith y mae'r grant yn ei chael yn barod yn Eglwys Gymunedol Bont Elim ym Mhontarddulais yn rhoi boddhad mawr.

"Mae cannoedd o fusnesau a sefydliadau eraill ledled y ddinas hefyd yn elwa o grantiau tebyg, sy'n rhan o'n hymrwymiad i gefnogi busnesau a chymunedau lleol yn Abertawe er budd preswylwyr o bob oed."

Mae dros £22m o grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'u dyfarnu i gannoedd o brosiectau ledled Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae prosiectau angori sy'n rhan o'r rhaglen gyllido gyffredinol yn cynnwys prosiect angori gwledig, cymorth busnes, diwylliant a thwristiaeth, cefnogi cymunedau a phrosiect trawsnewid lleoedd ar draws y sir.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Awst 2024