Cartref gofal arbenigol yn cefnogi pobl yn "eithriadol o dda"
Mae cartref gofal arbenigol sy'n cefnogi pobl sy'n gadael yr ysbyty y mae angen cymorth ychwanegol arnynt cyn y gallant ddychwelyd i fyw'n annibynnol gartref wedi cael ei ganmol gan arolygwyr.


Yn ôl arolygwyr, mae Tŷ Bonymaen yn wasanaeth cartrefol a chroesawgar sy'n cefnogi anghenion pobl yn dda.
Canmolwyd staff am eu hymagwedd gynnes a sensitif a'r ffaith eu bod yn cynnwys unigolion a'u teuluoedd wrth gynllunio eu gofal.
Mae gan Dŷ Bonymaen, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Abertawe gyda chymorth ei bartneriaid, gan gynnwys y bwrdd iechyd lleol, 24 o welyau arhosiad byr sy'n cefnogi anghenion ail-alluogi pobl.
Defnyddir y gwasanaeth fel cam allweddol ar gyfer y rhai sydd wedi'u rhyddhau o'r ysbyty ond y mae angen rhagor o gefnogaeth arnynt cyn y gallant ddychwelyd adref.
Mae hefyd yn cefnogi gwasanaethau camu i fyny cymunedol ar gyfer pobl y mae angen cyfnod o asesu a chymorth arnynt cyn iddynt ddychwelyd adref er mwyn atal derbyniadau i'r ysbyty neu ofal hirdymor.
Meddai Louise Gibbard, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Gofal, "Hoffwn longyfarch holl staff Tŷ Bonymaen am yr adroddiad cadarnhaol a hoffwn ddiolch iddynt am wneud gwaith mor werthfawr gyda chymaint o broffesiynoldeb, ymroddiad a thosturi.
"Bob wythnos mae pobl yn gallu dychwelyd i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain diolch i'r gwasanaeth hwn sy'n newid bywydau er gwell."