Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobr ar gyfer pont Bae Copr Abertawe

Mae pont Bae Copr Abertawe wedi ennill gwobr am safon ei dyluniad.

Copr Bay bridge

Copr Bay bridge

Canmolwyd y bont gan feirniaid yng Ngwobrau Dylunio Dur Adeiladu 2023 am ddarparu porth dramatig newydd i Abertawe.

Gwnaethant sylwadau hefyd ar ei ffurf a'i lliw trawiadol, sy'n helpu i gydnabod hanes y bae fel canolfan ar gyfer cynhyrchu glo a chopr.

Mae'r bont 49 metr o hyd, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe fel rhan o ardal Bae Copr y ddinas, yn cysylltu canol y ddinas ag Arena Abertawe, y parc arfordirol a'r ardal forol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Roedd Oystermouth Road bob amser wedi bod yn rhwystr rhwng canol y ddinas a'r glannau

"Mae'r bont newydd wedi creu cysylltiad llawer gwell rhwng y ddwy ardal hynny i gerddwyr a beicwyr, wrth ddod yn dirnod hefyd yn Abertawe i fodurwyr sy'n gyrru i mewn ac allan o'r ddinas.

"Mae ei dyluniad hefyd yn golygu bod y bont wedi dod yn lleoliad tynnu lluniau poblogaidd i breswylwyr a'r rheini sy'n mynd i'r arena, gan helpu i godi proffil Abertawe ymhellach ar draws y DU a thu hwnt.

"Mae'r bont yn un rhan o stori adfywio gwerth £1bn sy'n parhau i greu canol dinas mwy bywiog i fyw, gweithio, dysgu a mwynhau ynddi."

Dyluniwyd pont Bae Copr gan yr artist lleol, Mark Rees a'r practis pensaernïol, ACME. Y peiriannydd adeiladu oedd Ney & Partners ac S H Structures Ltd oedd y contractwr gwaith dur.

Mae'r dyluniad yn cydbwyso golwg gyfoes gyda chyfeiriadau sy'n dathlu treftadaeth y ddinas.

Mae'r 2,756 o siapiau a ysbrydolwyd gan origami ac a dorrwyd gan laser sydd wedi'u gwasgaru ar draws baneli'r bont yn creu silwetau o elyrch.

Meddai Mr Rees, "Bu'n wefr oes i ymwneud â rhan mor eiconig o'r gwaith i adfywio fy nhref enedigol.

"Disgrifiwyd Abertawe yn waradwyddus gan Dylan Thomas fel 'ugly, lovely town'. Beth bynnag oedd rhinweddau hynny pan ddywedwyd hyn ganddo, mae dyhead Abertawe i newid, tyfu a ffynnu yn fwy nag amlwg yn awr."

Mae'r bont un lled sy'n pwyso 140 tunnell, yn 12 metr o led a 7.5m o uchder.