Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn parhau i gefnogi grŵp y Bont Slip

Disgwylir i Gyngor Abertawe barhau i weithio gyda chefnogwyr Pont Slip y ddinas i'w helpu i wireddu eu dymuniad i roi bywyd newydd i'r bont.

Slip Bridge Proposal

Slip Bridge Proposal

Mae gan y cyngor swm cyfalaf o £139,000 i helpu i hwyluso cynlluniau Cyfeillion Pont Slip Abertawe ar gyfer y dyfodol.

Byddai hyn yn cynnwys cefnogi gwaith dylunio arbenigol a gomisiynwyd gan y Cyfeillion. Byddai angen cyllid arall i gyflwyno'r cynllun.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym yn cefnogi dymuniad y grŵp i adfer y bont ac yn deall barn y grŵp ei bod yn bwysig i dreftadaeth Abertawe.

"Rydym wedi cefnogi'r grŵp dros y blynyddoedd diwethaf fel ffynhonnell arweiniad a byddwn yn ei gefnogi'n weithredol trwy gamau cychwynnol ei gynllun ac wrth chwilio am gyllid allanol.

"Mae treftadaeth y ddinas yn bwysig i ni, a gallwch weld hynny drwy edrych ar ein gwaith gydag eraill i adnewyddu lleoliadau fel Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, adeilad Theatr y Palace a Neuadd Albert."

Adeiladwyd y Bont Slip ym 1915 pan roedd trenau - a thramiau wedyn - yn teithio ar hyd glan môr Oystermouth Road. Roedd yn helpu pobl i ymweld â'r traeth yn ddiogel.

Fodd bynnag, ym 1960 caeodd South Wales Transport Company y rheilffordd felly roedd llai o angen am y bont.

Symudwyd y bont fwaog yn 2005 yn dilyn pryderon ynghylch ei chyflwr.

Mae lled y bont yn nodwedd amlwg gerllaw ac mae'n rhan o'r llwybr beicio glan môr poblogaidd.

Mae'r pentanau carreg gwreiddiol yn bodoli o hyd ac mae croesfannau a reolir gan oleuadau traffig yn galluogi cerddwyr a beicwyr i groesi'r ffordd yn ddiogel.

Mae Cyfeillion Pont Slip Abertawe'n cynnwys copi o'r lled a wnaed o ddur sy'n hawdd ei gynnal, caffi a chyfleusterau chwaraeon newydd ar gyfer ymwelwyr â'r traeth.

Rhagor: www.facebook.com/SwanseaSlipBridge

 

 

Close Dewis iaith