Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiynau galw heibio i helpu gyda band eang

Cynhelir cyfres o sesiynau galw heibio am ddim yn fuan i helpu pobl gyda'u band eang.

woman on pc

woman on pc

Trefnir y sesiynau galw heibio gan Gyngor Abertawe a byddant yn rhoi gwybodaeth am gyflymder y rhyngrwyd a manylion ynghylch y grantiau sydd ar gael i helpu gyda'r costau gosod ac uwchraddio.

Bydd swyddogion y Cyngor hefyd ar gael i drafod opsiynau cysylltedd amgen a ffyrdd i wella band eang pobl.

Cynhelir y sesiynau yn y lleoliadau canlynol:

  • Yn Llyfrgell Ganolog Abertawe ddydd Mawrth 15 Hydref rhwng 10.00am a 12.00pm
  • Yn Llyfrgell Cilâ ddydd Iau 17 Hydref rhwng 1.30pm a 3.30pm
  • Yn Llyfrgell Treforys ddydd Mawrth 22 Hydref rhwng 1.00pm a 3.00pm
  • Yn Llyfrgell Brynhyfryd ddydd Llun 28 Hydref rhwng 1.30pm a 3.30pm

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae cysylltedd digidol wrth wraidd bywyd pob dydd y dyddiau hyn, p'un a ydy pobl yn mynd ar-lein i siopa, i gael y newyddion diweddaraf neu i wirio'u cyfryngau cymdeithasol.

"Dyma pam rydym yn benderfynol o helpu cymaint o bobl â phosib yn Abertawe i gael band eang gwell.

"Yn ogystal â chynnwys cefnogaeth ariannol a ffyrdd i wella band eang, bydd y sesiynau galw heibio hefyd yn esbonio beth yw band eang ffibr llawn a'r math o gyflymder band eang y bydd ei angen arnynt ar gyfer nifer y bobl sy'n byw yn y cartref."

Mae band eang gwell i bawb yn un o ddyheadau rhaglen isadeiledd digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. E-bostiwch eich swyddog ymgysylltu band eang lleol yn claire.hughes@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2024