Cartrefi cyngor newydd yn barod i groesawu eu tenantiaid cyntaf
Mae rhagor o gartrefi newydd a adeiladwyd gan y cyngor yn barod i groesawu eu tenantiaid cyntaf dros yr wythnosau nesaf.


Mae'r pedair fflat un ystafell wedi eu creu yn hen ganolfan addysg Tŷ Bryn ar Walter Road, Uplands.
Dywedodd Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, y bydd tenantiaid wrth eu bodd gyda'u cartrefi newydd.
Meddai, "Mae'r fflatiau newydd yn Nhŷ Bryn o safon uchel iawn ac maent mewn lleoliad gwych gyda lleoedd parcio a thiroedd a golygfeydd hyfryd.
"Mae gan y ddwy fflat ar y llawr gwaelod ystafelloedd ymolchi hygyrch, sy'n eu gwneud yn berffaith i'r rheini â heriau symudedd.
"Mae galw mawr am dai fforddiadwy o safon i'w rhentu yn Abertawe, ar gyfer pobl sengl a theuluoedd. Eleni rydym yn buddsoddi tua £7m yn rhagor mewn cartrefi newydd er mwyn helpu i gynnal y momentwm.
"Mae tîm y cyngor sy'n gyfrifol am y fflatiau yn Nhŷ Bryn wedi gwneud gwaith arbennig o dda i newid ac ailbwrpasu adeilad a safle ag ôl traul arnynt."
Maent ymysg y cartrefi newydd cyntaf i gael eu hadeiladu gan y cyngor mewn cenhedlaeth, fel rhan o raglen adeiladu sy'n cynnwys bron 100 eiddo newydd a fydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer rhent fforddiadwy, gan amrywio o fflatiau i gartrefi teuluoedd â thair ystafell wely.
Mae'r pecyn o gartrefi newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn nyfodol tai cymdeithasol Abertawe, a bwriad y cyngor yw adeiladu 1,000 o gartrefi newydd dros y degawd nesaf.
Daw'r arian ar gyfer y cartrefi newydd a'r gwelliannau ar gyfer y cartrefi sydd eisoes yn bodoli o'r rhent a delir gan y tenantiaid, grantiau gan Lywodraeth Cymru a benthyca CRT. Ni ddaw unrhyw ran o'r gwariant o dreth y cyngor.
Llun: Tŷ Bryn