Datblygiad tai newydd wedi'i gwblhau mewn hen ganolfan addysg
Mae gwaith wedi'i gwblhau ar gynllun tai newydd Cyngor Abertawe.
Mae'n cyfuno adnewyddiad hen ganolfan addysg i greu cartrefi parhaol a gosodiad cyfagos o bodiau preswyl i bobl y mae angen llety dros dro arnynt.
Comisiynwyd y cynllun cyfan, yn Uplands, fel ymateb brys i'r diffyg tai ar ddechrau'r pandemig.
Cwblhawyd y gwaith o addasu'r prif dŷ'n bedair fflat un ystafell wely ym mis Rhagfyr ac mae hynny'n golygu bod adeilad gwag ger canol y ddinas bellach yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Caiff y podiau - sy'n unedau hunangynhwysol wedi'u dodrefnu'n llawn - eu cynnig am gyfnodau byr i helpu'r rheini y mae angen llety dros dro arnynt.
Mae'r cyffyrddiadau olaf bellach yn cael eu gwneud i'r pedwar pod un ystafell wely. Byddant ar gael i'w gosod yn fuan.
Gosodwyd y podiau - a adeiladwyd oddi ar y safle ac a drosglwyddwyd i dîm gwasanaethau adeiladau'r cyngor - ar dir hen ganolfan addysg gymunedol Tŷ Bryn.
Bydd y podiau ynni effeithlon yn gweithredu i safonau ecogyfeillgar PassivHaus ac fe'u defnyddir fel llety i hyd at chwe pherson. Mae gan y datblygiad lle dynodedig i gynnig cefnogaeth ar y safle.
Meddai cyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis: "Rydym wedi gallu darparu'r cynllun hwn gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru. Dyma enghraifft o ymagwedd flaengar lle defnyddiwyd adeilad gwag unwaith eto ar gyfer tai, ochr yn ochr â defnyddio dulliau adeiladu modern ar gyfer cartrefi sydd wedi'u hadeiladu mewn ffatri.
"Bydd y podiau'n ddewis diogel a fforddiadwy ar gyfer y rheini y mae eu hangen arnynt tan y bydd llety mwy parhaol yn cael ei sicrhau. Bydd y cyngor a sefydliadau partner yn cynnig cefnogaeth dosturiol ac amserol trwy gydol y flwyddyn."
Ers i'r pandemig ddechrau mae dros 800 o aelwydydd sydd wedi ceisio cymorth gan y cyngor wedi cael eu helpu i symud o lety dros dro i lety mwy addas.
Mae'r cyngor wedi addo, er bod heriau sylweddol a chymhleth yn parhau, y cynigir gwely i bob person sy'n cysgu allan yn Abertawe os ydyw am gael un. Mae'r addewid hirsefydlog hwn yn cael ei ailadrodd i bobl ddiamddiffyn sy'n byw yn y ddinas.