Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i wella ysgol yn Abertawe'n agosach at gael ei wireddu

Mae cynlluniau i adnewyddu ac ehangu ysgol uwchradd arall yn Abertawe, a hynny'n sylweddol, gan wella cyfleusterau dysgu miloedd o ddisgyblion eraill a'u hathrawon, yn agosach at gael eu gwireddu.

Bryntawe External

Bryntawe External

Clustnodwyd mwy na £18m i'w fuddsoddi yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i ailwampio rhan o'r adeiladau presennol, adeiladu bloc addysgu newydd ar gyfer y chweched dosbarth, ynghyd â disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a chreu cyfleusterau chwaraeon newydd, gan gynnwys cae pob tywydd.

Yr adeilad newydd fydd yr adeilad carbon sero net gweithredol cyntaf yn Abertawe a bydd newidiadau sylweddol i'r trefniadau parcio a fydd yn gwella'r ddarpariaeth bresennol.

Dyma ran o'r rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed mewn ysgolion newydd a gwell yn Abertawe; mae'n werth £520m ac fe'i hariennir ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Yn ystod y degawd diwethaf, gwariwyd £100m ar saith adeilad ysgol newydd a saith prosiect adnewyddu sylweddol arall, ac mae gwelliannau gwerth mwy na £400m yn yr arfaeth dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Yn ogystal â gwella cyfleusterau dysgu, bydd y buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe yn cynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol ac yn helpu i fodloni'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.

Mewn cyfarfod yr wythnos nesaf, gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe benodi contractwr i gwblhau'r dyluniad manwl a mynd â'r prosiect i'r cam adeiladu.

Rhagwelir y gellid dechrau adeiladu yn haf 2026 ac y byddai angen oddeutu 18 mis i gwblhau'r gwaith.

Meddai'r Cyng. Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, "Mae'n destun cyffro i fi mai Bryn Tawe fydd yr ysgol uwchradd nesaf yn Abertawe i gael buddsoddiad enfawr i drawsnewid yr amgylchedd dysgu i ddisgyblion. Bydd yn gwella'r cyfleusterau i'r holl ddisgyblion yn yr ysgol.

"Bydd y bloc addysgu newydd, sef ein hadeilad carbon sero net gweithredol cyntaf, yn darparu llety mwy addas i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â hybu myfyrwyr y chweched dosbarth, gan annog mwy ohonynt i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Rwy'n siŵr y bydd y cyfleusterau chwaraeon newydd sy'n rhan o'r cynlluniau yn destun cyffro i ddisgyblion.

"Rydym am i'n pobl ifanc ddysgu mewn amgylcheddau modern a chroesawgar, ac mae gennym hanes o gyflawni gwelliannau sylweddol i isadeiledd ysgolion fel rhan o'r rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed mewn ysgolion yn Abertawe.

"Mae gennym rai cynigion hynod uchelgeisiol am y blynyddoedd i ddod dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac rwy'n ddiolchgar fel arfer i'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru am barhau i gefnogi'r hyn rydym yn ei gyflawni yma yn Abertawe."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2024