Ysgol yn ennill gwobr am ysbrydoli mwy o ddefnydd o'r Gymraeg
Mae gwaith caled disgyblion, staff a'r gymuned ehangach mewn ysgol gynradd yn Abertawe wedi talu'r ffordd wedi iddynt ennill gwobr arian am annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi.
Mae Ysgol Gymraeg Bryn y Môr wedi ennill gwobr arian y Siarter Iaith, sef menter Llywodraeth Cymru i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Meddai Cydlynydd y Siarter Iaith, Catrin Williams, "Mae'r Pwyllgor Cymreictod a'r ysgol gyfan wedi bod yn gweithio'n ddyfal dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod ein taith tuag at y wobr arian yn llwyddiannus.
"Beirniadwyd bod gan y Siarter Iaith le amlwg o fewn yr ysgol a bod gan y pennaeth, arweinydd y siarter, yr holl staff, y dysgwyr a'r rhieni falchder yn yr iaith Gymraeg."
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Hoffwn longyfarch pawb yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr ar ennill y wobr hon.
"Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi pob ysgol i gynyddu defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg yn gymdeithasol drwy ddefnyddio'r Siarter Iaith fel rhan o'i Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg."