Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n dangos ei chefnogaeth i Gymru

Mae het fwced anferth wedi ymddangos yng nghanol Abertawe.

Bucket Hat in Castle Square

Bucket Hat in Castle Square

Gyda llai na phythefnos i fynd tan Gwpan y Byd, mae Cymru'n paratoi ar gyfer y twrnamaint yn Qatar. Ac felly hefyd bobl Abertawe.

Mae'r het newydd ymddangos yn Sgwâr y Castell.

Mae ganddi arwyddair Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a bydd yn helpu Cymru i ddathlu ei Chwpan y Byd Cyntaf ers 1958.

Fe'i gosodwyd yr wythnos hon mewn da bryd ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn erbyn UDA ar 21 Tachwedd.

Ond nid dyma'r unig ffordd y mae'r ddinas yn nodi Cwpan y Byd.

Mae tîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor yn cynllunio gweithgareddau fel gweithgareddau chwaraeon mewn ysgolion ac arddangosfeydd sy'n seiliedig ar thema mewn lleoliadau allweddol - a bydd Parc y Cefnogwyr, mewn pabell fawr â 2,500 o seddi ym Mharc Singleton, ar agor drwy gydol y twrnamaint diolch i Fan Parks UK Group.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn falch iawn bod gan Abertawe ei het fwced ei hun - bydd yn helpu pobl i gefnogi Cymru. 

"Mae Abertawe'n dathlu llwyddiannau'r tîm ac roedd tîm digwyddiadau'r cyngor yn falch iawn o hwyluso'r gwaith o osod yr het ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru."

Llun: Het fwced anferth Cwpan y Byd yn Sgwâr y Castell.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Tachwedd 2022