Rydym yn recriwtio prentisiaid ar gyfer ein tîm Gwasanaethau Adeiladau
Mae Cyngor Abertawe'n lansio'i ymgyrch flynyddol i recriwtio prentisiaid yr wythnos hon, ac mae 6 lle ar gael yn nhîm y Gwasanaethau Adeiladau.


Mae parch mawr at raglen arobryn y cyngor am ei bod yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o seiri coed, plymeriaid, trydanwyr, plastrwyr a bricwyr.
Mae ffurflenni cais bellach ar gael ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/swyddi a'r dyddiad cau yw dydd Sul 2 Mawrth.
Caiff prentisiaethau eraill mewn nifer o adrannau eraill eu hysbysebu ar y wefan drwy gydol y flwyddyn.
Eleni, mae'r cyngor yn ceisio 2 saer prentis, 2 blastrwr prentis yn ogystal â phlymwr prentis a briciwr prentis.
Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Rwy'n hynod falch o'n rhaglen prentisiaethau adeiladu oherwydd ein henw da am hyfforddiant o'r radd flaenaf ac am gynhyrchu gwaith crefft a chrefftwyr o safon - yn ddynion ac yn fenywod."