Canmol ysgol hapus a llwyddiannus am ddathlu cyflawniadau disgyblion
Mae Ysgol Gynradd Burlais yn ysgol hapus, ddiogel a llwyddiannus lle mae pob disgybl yn cael ei werthfawrogi a'i barchu ac mae ei gyflawniadau'n cael eu dathlu, yn ôl arolygwyr Estyn.
Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi'n datgan y canlynol, "Mae athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn adnabod y disgyblion yn dda ac maent yn cynllunio amrywiaeth diddorol o weithgareddau sy'n cefnogi eu lles a'u hanghenion dysgu'n llwyddiannus.
"O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a'r rhai sy'n mynychu'r ddau gyfleuster addysgu arbennig, yn gwneud cynnydd da o'u mannau cychwyn unigol.
"Mae'r ysgol wedi datblygu ei chwricwlwm i gynnwys amrywiaeth eang ac amrywiol o brofiadau dysgu buddiol."
Roedd tîm Estyn wedi ymweld â'r ysgol yn gynharach yn y tymor ac yn ei adroddiad maent hefyd wedi rhoi sylw i ymagwedd yr ysgol at ofalu am ddisgyblion a'u teuluoedd, gan nodi bod hyn yn gryfder.
Mae staff, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio yn y cyfleusterau addysgu arbennig, yn gweithio'n agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol i ddarparu cyngor amhrisiadwy, cyfeirio a mynediad at adnoddau.
Ychwanegodd yr arolygwyr fod y pennaeth, Mark Thompson, yn arwain yr ysgol mewn modd meddylgar ac ymroddedig ac mae ymrwymiad y tîm o staff a llywodraethwyr yn ei gefnogi'n dda.
Meddent, "Mae gan arweinwyr wybodaeth gadarn am yr hyn mae'r ysgol yn ei wneud yn dda a'r hyn y mae angen ei wella. Mae gwaith diweddar i ddatblygu sgiliau darllen disgyblion wedi bod yn arbennig o lwyddiannus ac mae ffocws cadarn ar les wedi arwain at welliannau gwerthfawr o ran ymddygiad a phresenoldeb disgyblion."
Meddai Mr Thompson, "Rwy'n gobeithio bod disgyblion, eu teuluoedd a'n holl staff yr un mor falch o'r adroddiad hwn ag ydw i. Ni allaf ddiolch digon iddynt am yr hyn maent yn ei wneud i sicrhau bod ein hysgol yn gymuned hapus, ofalgar a llwyddiannus.
"Rwyf mor falch bod yr arolygwyr wedi cydnabod yr holl waith gwych sy'n mynd rhagddo bob dydd."