Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad yn Arena Abertawe i helpu busnesau i wneud cais am gyfleoedd gwaith mawr yn Abertawe a ledled Cymru

Bydd busnesau bach a chanolig yn cael gwybod cyn bo hir sut y gallant elwa o gontractau gwerth yn agos i £5m dros y chwe mis nesaf yn Abertawe a thu hwnt.

Arena and marina

Arena and marina

Maent yn cael eu gwahodd i fynd i ddigwyddiad sy'n cael ei drefnu gan Busnes Cymru a'i gefnogi gan adrannau Masnachol, Adeiladau Corfforaethol ac Adfywio Economaidd Cyngor Abertawe ddydd Mawrth 10 Medi.

Bydd llawer o sefydliadau sector cyhoeddus eraill o bob rhan o dde Cymru yn mynd i'r digwyddiad hefyd. Fe'i cynhelir yn Arena Abertawe o 9am i 4pm, a bydd busnesau'n dysgu sut i wneud busnes â'r cyngor ac am y ffordd orau o wneud cais am gyfleoedd gwaith y cyngor.

Mae grantiau o hyd at £1,000 bellach ar gael i helpu busnesau lleol yn Abertawe i wneud cais am gontractau sector cyhoeddus neu ar raddfa fwy.

Bydd ymgeiswyr busnes llwyddiannus yn gallu defnyddio'r arian i helpu i gael mynediad at hyfforddiant ar gyfer yr achrediad sydd ei angen i wneud cais am waith o'r math hwn.

Mae'r grant datblygu cyflenwyr a gynhelir gan Gyngor Abertawe ac a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu 50% o'r costau mewn arian cyfatebol. 

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd hefyd ddarparu crynodeb busnes a rhagolwg llif arian 12 mis. E-bostiwch GrantDatblygu@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais.

I gael gwybodaeth am y digwyddiad ac i gofrestru ar gyfer 10 Medi, ewch i https://www.gwerthwchigymru.llyw.cymru/news/news_article.aspx?ID=5524

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Awst 2024