Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol i fusnesau marchnata a glanhau

Mae dau yn rhagor o fusnesau Abertawe wedi cael help llaw gyda hwb ariannol.

Louise Rengozzi and Jess Hickman

Louise Rengozzi and Jess Hickman

Mae Cyngor Abertawe wedi dyfarnu grant datblygu gwefan i The Cusp a grant cyn cychwyn busnes i DUA Cleaning Services.

Ariennir y ddau grant gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae The Cusp, busnes yn ardal Uplands y ddinas a sefydlwyd ar y cyd gan y ddeuawd marchnata Louise Rengozzi a Jess Hickman, yn asiantaeth farchnata sy'n arbenigo mewn ymgyrchoedd cyfryngau a hysbysebu digidol ac allan o'r cartref ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae'r cwmni'n arwain digwyddiad Awr Bŵer ar-lein am ddim o'r enw 'Marketing Stand Out Innovations 2023' a 'What's to come for 2024' a drefnwyd mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe ddydd Iau 21 Medi o 1pm i 2pm. Bwriedir iddo helpu busnesau lleol gynllunio'u strategaethau marchnata ar gyfer 2024, waeth beth yw'r gyllideb.

Roedd y grant gan y cyngor wedi helpu'r busnes i adeiladu gwefan sydd bellach yn cynnwys cyfres o weminarau 'Marketing Heroes Wales' i hyrwyddo'r dirwedd farchnata yng Nghymru.

Mae'r gyfres yn cynnwys sgyrsiau ag arweinwyr marchnata o frandiau Cymreig, gan gynnwys AU Vodka, grŵp Dr. Organic a'r Bathdy Brenhinol.

Yn ystod ei rôl fel gweinyddwr gosodiadau yn StudentDigz yn Abertawe, nododd Matthew Warren, sy'n rhedeg DUA Cleaning Services, fwlch yn y farchnad ar gyfer glanhau ar ddiwedd tenantiaethau.

Mae'n amcangyfrif y bydd wedi glanhau llawer o eiddo erbyn diwedd mis Medi ers mis Mehefin.

Roedd y grant cyn cychwyn busnes wedi helpu Matthew i brynu offer glanhau, graffeg ceir a deunyddiau marchnata eraill gan gynnwys dyluniad logo.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae busnesau Abertawe mor bwysig i economi'r ddinas ac mae cynifer o bobl allan yno â syniadau busnes gwych.

"Dyna pam ei bod yn hanfodol fod y cyngor yno i fusnesau o bob oed a maint ac yn gallu cynnig cefnogaeth i ddoniau entrepreneuraidd Abertawe.

"Mae cymorth i fusnesau'n thema allweddol o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yma yn Abertawe, ac mae'r grantiau cyn cychwyn busnes a datblygu gwefan ymysg nifer y gall busnesau yn Abertawe wneud cais amdanynt."

Mae grantiau eraill a gynhelir hefyd gan y cyngor ac a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnwys grantiau twf busnes a grantiau lleihau carbon.

Mae grant datblygu eiddo hefyd ar gael i helpu datblygwyr gyda chostau adeiladu neu ehangu adeiladau at ddefnydd diwydiannol yn Abertawe a fyddai'n creu swyddi.

Mae grantiau eraill yn cynnwys grant datblygu cyflenwyr i helpu busnesau i ariannu'r gost o gael mynediad at hyfforddiant ar gyfer yr achrediad sydd ei angen i wneud cais am gontractau'r sector cyhoeddus neu ar raddfa fwy.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau i gael rhagor o wybodaeth.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2023