Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio Arweiniad Busnes Abertawe newydd

Rydym wedi lansio Arweiniad Busnes Abertawe newydd sydd wedi'i ddylunio i gefnogi entrepreneuriaid a pherchnogion busnes sy'n ceisio sefydlu neu dyfu mentrau yn y ddinas.

Swansea Bay drone

Swansea Bay drone

Mae'r arweiniad yn darparu cyfoeth o gyngor ymarferol, o fanylion ynghylch grantiau a chyfleoedd ariannu i wybodaeth am recriwtio, arloesedd a chynaliadwyedd. 

Cynhyrchwyd yr arweiniad gan Gyngor Abertawe ac mae'n tynnu sylw at gryfderau'r ddinas a'i sectorau twf gan arddangos pam mae Abertawe'n lleoliad gwych ar gyfer buddsoddi mewn busnesau. 

Mae'n cynnwys pynciau fel gwneud busnes yn Abertawe, datblygu cynaliadwy, sgiliau a recriwtio, arloesedd a thechnoleg ac mae'r arweiniad hefyd yn tynnu sylw at y ffordd unigryw o fyw, y diwylliant a'r cyfleoedd hamdden sy'n gwneud Abertawe'n lle mor gyffrous i fyw a gweithio ynddi. 

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Abertawe'n ddinas sy'n datblygu, gyda chynlluniau adfywio mawr yn trawsnewid yr ardal ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau o bob maint. 

"Mae'r fersiwn newydd o Arweiniad Busnes Abertawe yn adnodd gwerthfawr sy'n cyfuno'r holl wybodaeth, cyngor a chymorth sydd ar gael i helpu busnesau i lwyddo. 

"Ni fu amser gwell i sefydlu busnes yma erioed ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi entrepreneuriaid a buddsoddwyr a'u helpu i ffynnu yn Abertawe." 

Ewch yma i weld yr arweiniad busnes ac i lawrlwytho copi. 

Yn ogystal â'r arweiniad busnes mae'r cyngor hefyd yn hyrwyddo 'It's Local - Abertawe' , cyfeiriadur ar-lein am ddim a ddyluniwyd i gysylltu busnesau lleol â chwsmeriaid lleol. 

Mae'r cyfeiriadur, sydd wedi'i optimeiddio ar gyfer dyfeisiau symudol, yn ei wneud yn haws i breswylwyr ac ymwelwyr chwilio am wasanaethau lleol ac i fusnesau ychwanegu eu manylion am ddim gan helpu i gadw masnach a buddsoddiad yn yr economi leol. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Hydref 2025