Toglo gwelededd dewislen symudol

Siop flodau a chegin ymysg y busnesau sy'n elwa o hwb ariannu

Mae dros 320 o fusnesau yn Abertawe yn elwa o hwb ariannol o fwy na £2.7m i wella'u golwg a'u naws.

Flowers by arrangement

Flowers by arrangement

Mae'r buddsoddiad yn rhan o gronfa adferiad economaidd Cyngor Abertawe a sefydlwyd i helpu busnesau, cymunedau a phreswylwyr adfywio o effaith economaidd y pandemig.

Fel rhan o'r cynllun grant gwella busnes, sydd bellach ar gau ar gyfer ceisiadau, gwahoddwyd busnesau i wneud cais am hyd at £10,000 i wella golwg eu heiddo.

Mae busnesau ym mhob rhan o'r ddinas wedi elwa.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn cydnabod effaith y pandemig ar ein cymuned fusnes a dyna pam y mae'r cyngor yn parhau i fod yn benderfynol o wneud popeth y mae'n gallu i helpu.

"Mae'r cynllun grant hwn ymysg nifer o ffyrdd rydym yn cefnogi ein busnesau gyda'u hadferiad economaidd, felly mae'n hyfryd gweld nifer y busnesau sydd bellach yn elwa o waith gwella gorffenedig"

Ymysg y busnesau sydd wedi elwa o grant mae Flowers by Arrangement ar Llangyfelach Road yn Nhreboeth, sy'n un o ychydig iawn o siopau blodau yng Nghymru i gael ei chynnwys yn y Good Florist Guide.

Meddai Paul Jackson, sy'n berchen ar y busnes ar y cyd â Donna Stevens, "Roedd y grant wedi talu am waith addurnol y tu allan a chanopïau newydd yn bennaf. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r tu allan i'r eiddo ac rydym wedi cael adborth gwych gan bobl leol - y mae rhai ohonynt wedi bod yn gwsmeriaid ers 30 o flynyddoedd.

"Mae'r gwaith gwella wedi golygu bod y siop yn llawer mwy trawiadol yr olwg. Os yw siop yn edrych yn dda y tu allan yna mae pobl yn fwy tueddol i ddod mewn.

"Defnyddion ni gwmnïau lleol hefyd i wneud y gwaith gwella - busnes paentio ym Mrynhyfryd a'r canopïau o gwmni yn Sgeti. Mae'n bwysig parhau i wario yn economi leol Abertawe lle bynnag y bo modd."

Mae Jack's Kitchen ar gornel College Street a High Street yng nghanol y ddinas yn fusnes arall sydd wedi elwa.

Meddai'r perchennog a'r cyfarwyddwr, Yasin Demir, "Roedd tu blaen y busnes yn arfer edrych yn wael - nid dim ond pren a phaneli wedi'u difrodi ond effaith traffig yn yr ardal yn effeithio ar y lliw gwyn.

"Ond gyda chefnogaeth gan grant y cyngor, mae'r gwaith gwella wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae'r busnes yn edrych yn llawer mwy deniadol, ac mae ein derbyniadau wedi dyblu dros y 12 mis diwethaf.

"Ers y gwaith gwella, mae'r busnes hefyd yn edrych yn fwy trawiadol, gan dynnu sylw gweithwyr canol y ddinas a'r rheini sy'n mynd i fyny ac i lawr y Stryd Fawr wrth fynd yn ôl ac ymlaen i'r orsaf drenau, gan arwain at gynnydd yn y fasnach gludfwyd.

Defnyddion ni gwmnïau lleol o Abertawe hefyd i wneud y gwaith gwella er mwyn gwneud yn siŵr bod busnesau lleol eraill yn gallu elwa yn ogystal."

Jack's Kitchen

Er bod y cynllun grant gwella busnes bellach wedi cau i geisiadau, mae digon o gyfleoedd ariannu newydd ar gael yn awr i fusnesau Abertawe.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau i gael rhagor o wybodaeth.