Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorthfeydd misol i helpu i gefnogi busnesau Abertawe

Bydd cymorthfeydd misol newydd i fusnesau'n dechrau cyn bo hir yn Abertawe lle gallant gael arweiniad ar faterion yn amrywio o wybodaeth am gymorth i fusnesau i help gyda cheisiadau am gyllid.

Civic centre site

Civic centre site

Cynhelir y gymhorthfa fusnes fisol gyntaf, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn ystafell G.4.2 yn y Ganolfan Ddinesig ddydd Iau 19 Hydref o 10am i 1pm.

Digwyddiad galw heibio ydyw, felly ni fydd angen gwneud apwyntiad.

Bydd gwybodaeth am grantiau a benthyciadau gan Gyngor Abertawe ar gael hefyd, yn ogystal â chyngor ar recriwtio a hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio a chyfeirio at asiantaethau perthnasol.

Bydd cynrychiolwyr o'r cyngor, Busnes Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe a Banc Datblygu Cymru wrth law i ateb cwestiynau a rhoi arweiniad.

Ariennir y cymorthfeydd busnes misol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cânt eu cynnal hefyd mewn rhannau eraill o Abertawe yn y misoedd sy'n dod hefyd, gyda manylion digwyddiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi unwaith y bydd trefniadau ar eu cyfer wedi'u cwblhau.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein busnesau mor bwysig i Abertawe, nid dim ond oherwydd y swyddi maent yn eu cynhyrchu, ond hefyd oherwydd y cyfraniad enfawr maent yn ei wneud i economi ac enw da'r ddinas. Dyna pam rydym wrth law i barhau i gefnogi busnesau Abertawe mewn unrhyw ffordd y gallwn.

"Bydd y cymorthfeydd busnes misol newydd a gynhelir mewn lleoliadau ledled Abertawe yn adeiladu ar bopeth arall sydd ar waith yn y cyngor i gynorthwyo'n busnesau.

"Mae hyn yn amrywio o glybiau menter i fusnesau newydd a digwyddiadau'r awr bŵer ar bynciau busnes allweddol i rai o'r cynlluniau grant i fusnesau sydd ar gael yn awr drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

"Bydd gwybodaeth am y grantiau hyn yn rhan o'r cymorthfeydd busnes hefyd, yn ogystal â llawer o arweiniad ac awgrymiadau da eraill i fusnesau.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyngorbusnes i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y cyngor i fusnesau yn Abertawe.

Mae hyn yn cynnwys adrannau ar gymorth ariannol, cymorth i fusnesau newydd, recriwtio a hyfforddiant a chefnogaeth ddigidol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Hydref 2023