Toglo gwelededd dewislen symudol

Galw am adborth busnesau er mwyn llunio cymorth yn y dyfodol

Mae angen adborth gan fusnesau Abertawe i sicrhau bod y cymorth ariannol ac ymarferol cywir ar gael iddynt.

Business needs survey

Business needs survey

Gyda'r nod o ddeall anghenion cymuned fusnes y ddinas nawr ac yn y dyfodol, mae arolwg ar-lein Cyngor Abertawe bellach yn fyw i gasglu barn cynifer o bobl â phosib.

Mae'r arolwg - sy'n cymryd llai na 10 munud i'w gwblhau - yn cynnwys cwestiynau am y math o gymorth grant a fyddai fwyaf buddiol i fusnesau lleol. Gallai hyn gynnwys arian sy'n helpu i dalu costau lleihau carbon, twf digidol, cyfarpar newydd, hyfforddiant, ymchwil a datblygiad neu fuddsoddiad mewn eiddo.

Mae cwestiynau eraill yn gofyn i fusnesau pa fath o sgiliau y mae angen iddynt eu gwella fwyaf, pa heriau y maent yn eu hwynebu wrth geisio tyfu, a pha feysydd y mae angen cymorth ar fusnesau ynddynt. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o farchnata a chymorth technegol i reolaeth ariannol, rhwydweithio neu ddod o hyd i gyflenwyr lleol.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Trwy ein tîm Busnes Abertawe, rydym yn gweithio i gefnogi cynifer o fusnesau lleol â phosib, gyda mentrau sy'n amrywio o grantiau tyfu busnes i'n gwasanaethau cyngor Awr Bŵer a'n menter i fusnesau newydd.

"Mae'r gwasanaethau hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ers eu cyflwyno gyntaf, er ein bod ni'n cydnabod bod llawer wedi newid ers dechrau'r pandemig. Dyma pam rydym yn awyddus i glywed barn cynifer o fusnesau lleol â phosib i sicrhau bod y math o gymorth rydym yn ei ddarparu - a'r ffordd rydym yn ei ddarparu - yn parhau i ddiwallu anghenion ein busnesau.

"Bydd yr adborth rydym yn ei dderbyn gan fusnesau yn helpu i benderfynu ar yr amrywiaeth o gymorth ymarferol y byddwn yn ei ddarparu yn y dyfodol, a'r math o gynlluniau ariannu y bydd busnesau'n elwa ohonynt."

Dylai busnesau fynd yma i lenwi'r arolwg anghenion busnes.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Mehefin 2022