Awgrymiadau da ar gyfer lleihau carbon ar gael i fusnesau Abertawe
Mae awgrymiadau da ar gael i fusnesau Abertawe sy'n ceisio arbed arian ar eu biliau ynni a thorri eu hôl troed carbon.


Mae Cyngor Abertawe yn trefnu bod sesiynau hyfforddi ar-lein am ddim ar gael â'r nod o helpu busnesau bach a chanolig eu maint gyfrannu at darged sero net y ddinas.
Bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn dysgu am hanfodion lleihau carbon, a bydd y sesiwn hyfforddi'n ymdrin â phynciau fel effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cludiant cynaliadwy a lleihau gwastraff.
Bydd gweithgareddau ymarferol ac astudiaethau achos hefyd yn rhan o'r sesiynau hyfforddi i helpu cyfranogwyr i ddeall sut i gymhwyso'r cysyniadau hyn i'w busnesau hyn.
Cynhelir y sesiwn hyfforddi o 9am i 4.30pm ddydd Gwener 14 Gorffennaf.
Caiff ei harwain gan Tanya Nash o Future Clarity - arbenigwr mewn cynaladwyedd a lleihau carbon.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym wedi gosod targed i Abertawe ddod yn ddinas sero net erbyn 2050.
"Mae hyn yn bwysig i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a gadael dinas fwy cynaliadwy i'n plant ac i genedlaethau'r dyfodol.
"Mae gan fusnesau Abertawe rôl allweddol wrth ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw, ond rydym yn cydnabod y bydd angen hyfforddiant ar lawer i ddeall ychydig mwy am yr her ac archwilio'r atebion posib y gallant eu rhoi ar waith.
"Ond, yn ogystal â hyfforddiant, rydym hefyd yn ymwybodol o'r ffaith y bydd angen cymorth ariannol ar fusnesau i'w helpu i wneud y newidiadau a fydd yn arwain at ddyfodol gwyrddach ac o bosib helpu busnesau i arbed arian ar eu biliau ynni. Dyna pam y mae cynllun grant lleihau carbon bellach ar waith i fusnesau wneud cais iddo, rhywbeth y bydd yr hyfforddiant hefyd yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad arno".
Bydd angen i unrhyw fusnesau sy'n ystyried gwneud cais am grant lleihau carbon gwblhau'r sesiwn hyfforddi, a disgwylir i ragor o sesiynau hyfforddi o'r math hwn gael eu cynnal yn y misoedd sy'n dod.
Gall busnesau gadw lle yn sesiwn 14 Gorffennaf - a gynhelir ar Microsoft Teams - drwy fynd i dudalen Eventbrite Cyngor Abertawe.
Gall y grant lleihau carbon, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, helpu i ariannu costau gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mesurau cadwraeth ynni a newidiadau i brosesau cynhyrchu sy'n arwain at leihau carbon. Rhaid i ymgeiswyr allu cyfrifo'r arbedion carbon a ragwelir ganddynt.
Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £10,000, er y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o'r costau mewn arian cyfatebol.Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes neu grynodeb a rhagolwg llif arian 12 mis.
E-bostiwch GrowthGrant@abertawe.gov.uk i gael manyion pellach ac i ofyn am ffurflen gais.