Cyfle i ddweud eich dweud am gynllun i roi hwb i dde-orllewin Cymru
Mae eisiau barn ar gynllun i helpu i gyrraedd nod er mwyn i dde-orllewin Cymru ddod yn rhanbarth mwy mentrus, uchelgeisiol a charbon-gyfeillgar erbyn 2035.
Mae'r cynllun corfforaethol drafft sy'n cael ei ddatblygu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn nodi gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth ynghyd â mesurau i'w gwireddu orau yn y blynyddoedd i ddod.
Ymysg y mesurau mae cynhyrchu cynlluniau trafnidiaeth ranbarthol a datblygu strategol i gysylltu cymunedau'r rhanbarth yn well a gwneud y mwyaf o botensial cyfleoedd twf rhanbarthol i adael etifeddiaeth tymor hir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Byddai cyflawni cynlluniau ynni a datblygu economaidd rhanbarthol hefyd yn helpu i ddatgarboneiddio'r rhanbarth ymhellach, gan geisio manteisio i'r eithaf ar fanteision y sector ynni gwynt ar y môr arnofiol sy'n dod i'r amlwg a datblygiadau cysylltiedig mewn technegau dal carbon a hydrogen.
Mae gan hyn y potensial i greu miloedd yn fwy o swyddi gwyrdd a diogel er budd pobl leol a busnesau lleol.
Mae'r cynllun corfforaethol drafft a chyfres o gwestiynau bellach ar gael yma i breswylwyr, busnesau a sefydliadau eraill yn Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe a thu hwnt roi adborth arnynt erbyn dydd Mercher Mawrth 8.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Ein nod yw creu rhanbarth datgarbonedig sy'n ffyniannus ac sydd â chysylltiadau da â chynifer o gyfleoedd gwaith â chyflog da â phosib i bobl leol.
"Gan adeiladu ar fuddsoddiad y Fargen Ddinesig mewn prosiectau ledled de-orllewin Cymru a'r enw da sydd gennym o ran gweithio mewn partneriaeth, mae'r weledigaeth a'r amcanion a amlinellir yn y cynllun corfforaethol drafft hwn wedi'u hanelu at roi hwb pellach i'n rhanbarth dros y degawd nesaf.
"Bydd holl breswylwyr a busnesau'r rhanbarth yn elwa o'r gwaith ar ynni, datblygu economaidd, datblygu strategol a thrafnidiaeth y byddwn yn ei wneud, felly mae'n bwysig ein bod yn ystyried barn pobl cyn cymryd y camau nesaf.
"Dyna pam hoffwn annog pobl i gael cip ar yr ymgynghoriad sydd bellach yn fyw a llenwi'r holiadur sydd ar gael i sicrhau bod yr holl adborth yn cael ei ystyried."
Caiff yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad eu hystyried cyn i gynllun drafft diweddaredig gael ei gyflwyno i'r cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn ei gymeradwyo ym mis Mawrth.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a sefydlwyd yn ffurfiol ym mis Ionawr 2022, yn cynnwys Arweinwyr Cynghorau Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.
Fe'i cyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac mae'n un o bedwar corff o'r fath a sefydlwyd yng Nghymru.