Toglo gwelededd dewislen symudol

Pot ariannu mawr yn fanteisiol i breswylwyr, busnesau a chymunedau Abertawe

Mae cynlluniau i helpu pobl i ddod o hyd i waith, cefnogi busnesau ac annog defnydd o leoedd gwyrdd cymunedol ymysg y prosiectau yn Abertawe sydd wedi elwa o bot ariannu mawr.

View of Swansea

View of Swansea

O fis Tachwedd 2021 i fis Rhagfyr eleni, mae bron i £2.5 miliwn o gyllid o Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU wedi'i fuddsoddi mewn nifer o gynlluniau ar draws y ddinas.

Gwahoddodd Cyngor Abertawe geisiadau gan sefydliadau lleol fel rhan o'r gronfa, ac ar ôl cyrraedd y rhestr fer fe'u cyflwynwyd i Lywodraeth y DU i'w cymeradwyo fel rhan o gais cyffredinol.

Mae cynlluniau a fydd yn elwa yn Abertawe yn cynnwys y fenter Llwybrau at Waith sy'n cael ei chynnal gan y cyngor, sydd wedi bod yn darparu cefnogaeth ar gyfer cyflogadwyedd, gwella sgiliau, gwirfoddoli a lleoliadau gwaith â thâl i'r rheini sy'n ddi-waith yn y tymor hir neu bobl 16 oed ac yn hŷn sy'n anweithgar yn economaidd. Yn ôl ffigurau, mae dros 250 o bobl wedi'u cefnogi ers dechreuad y cynllun.

Mae elfennau eraill o'r cyllid wedi canolbwyntio ar helpu busnesau Abertawe i adfer o effaith economaidd y pandemig, gyda chynlluniau'n cynnwys awr bŵer ar-lein a digwyddiadau clwb menter i fusnesau newydd sy'n rhoi awgrymiadau am ddim i gannoedd o fusnesau Abertawe ar bynciau sy'n amrywio o arweiniad i gyfryngau cymdeithasol a brandio i ystyriaethau cyfreithiol a seiberddiogelwch.

Gan ddefnyddio cyllid o'r Gronfa Adfywio Cymunedol, mae dros 50 o fusnesau newydd yn Abertawe hefyd wedi derbyn cymorth grant.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r prosiectau sydd wedi elwa yn Abertawe, sy'n gysylltiedig â themâu allweddol y Gronfa Adfywio Cymunedol, yn cynnwys y rheini sydd wedi'u hanelu at gefnogi ein busnesau a gwella sgiliau pobl leol fel y gallant ddod o hyd i waith.

"Fel nifer o ddinasoedd ar draws y DU a thu hwnt, roedd Abertawe'n bwriadu adfer o effaith economaidd y pandemig yn gyflym, felly mae'r cynlluniau hyn wedi bod yn bwysig er mwyn rhoi cymaint o gefnogaeth â phosib i entrepreneuriaid, preswylwyr a theuluoedd lleol.

"Bydd y Gronfa Adfywio Cymunedol yn rhagflaenu Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a disgwylir manylion yn fuan ar faint o arian y bydd Abertawe yn ei gael a sut y gall pobl a busnesau lleol elwa.

"Caiff gwybodaeth am y cynllun hwnnw ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd wedi'i gwblhau."

Mae cynlluniau eraill a ariennir gan y Gronfa Adfywio Cymunedol yn Abertawe yn cynnwys prosiect gyda Chanolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd y ddinas i gefnogi pobl o leiafrifoedd ethnig i fynd i mewn i fyd addysg a chyflogaeth, wrth fynd i'r afael â phroblemau sy'n cynnwys rhwystrau iaith.

Mae cynllun Adfywio Gwyrdd Penderi a gyflwynwyd gan Grŵp Pobl a phartneriaid hefyd wedi elwa o gyllid fel rhan o gynllun i annog preswylwyr lleol i fwynhau lleoedd gwyrdd yn eu cymuned wrth arddangos technoleg ynni gwyrdd. Mae hyn wedi cynnwys tyfu bwyd a dysgu ymarferol yn y gymuned, a gweithgareddau a digwyddiadau i deuluoedd lleol.