Toglo gwelededd dewislen symudol

Gerddi Sgwâr y Castell: Golwg newydd a ddylanwadwyd gan y cyhoedd yn sicrhau caniatâd cynllunio

​​​​​​​Mae preswylwyr a busnesau Abertawe wedi dylanwadu ar ddyluniad ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell gwyrddach wedi'u hailddatblygu sydd bellach wedi derbyn caniatâd cynllunio.

Castle Square Gardens of the near future

Castle Square Gardens of the near future

Ystyriwyd adborth cyhoeddus pan aeth y dylunwyr ati i greu'r golwg newydd.

Sicrhawyd cymeradwyaeth, a geisiwyd gan y cyngor, yn ystod y diwrnodau diwethaf. Bydd Gerddi Sgwâr y Castell yn derbyn y canlynol:

  • Mwy o goed
  • Mwy o wyrddni arall
  • Dau bafiliwn ar gyfer bwyd, diod neu fusnesau manwerthu
  • Nodwedd dŵr newydd ar gyfer chwarae rhyngweithiol
  • Sgrîn deledu enfawr newydd
  • Ardaloedd eistedd newydd yn yr awyr agored

Bydd dysglau plannu, grisiau seddi, goleuadau a phalmentydd newydd. Caiff y nodwedd cwch deilen bresennol ei symud i leoliad addas arall yn Abertawe.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae sicrhau caniatâd cynllunio'n newyddion gwych ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell; mae'n golygu y gallwn wireddu'r cynllun cyffrous hwn nawr."

Mae elfennau masnachol y cynllun - gan gynnwys unedau bwyty gyda seddi allanol - yn ceisio cynyddu bywiogrwydd y lleoliad ac annog pobl i aros yn hwy.

Mae'n debygol y gwneir y gwaith hwn o eleni a thros gyfnod o oddeutu 12 mis.

Cafodd aelodau'r cyhoedd gyfle i fynegi'u barn ynghylch y cais cynllunio y llynedd. Helpodd adborth gan y cyhoedd yn ystod camau ymgynghori cynharach i ddatblygu'r cynlluniau terfynol.

Meddai Friedrich Ludewig, o'r penseiri ACME, "Rydym yn falch iawn o dderbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith i ailddylunio Gerddi Sgwâr y Castell yn Abertawe."

Gellir gweld y cynlluniau ar-lein - www.bit.ly/3BOriTC

Llun: Golwg newydd arfaethedig ar gyfer Gerddi Sgwâr y Castell. Darluniad: ACME