Hysbysfyrddau diogelwch yn cael eu gosod ar gyfer gwaith yn Sgwâr y Castell
Mae arwydd arall y bydd Sgwâr y Castell yn lle gwyrddach a mwy croesawgar yn cael ei roi ar waith dros y dyddiau nesaf.


Wrth i'r gwaith paratoi barhau ar y prosiect i drawsnewid canolbwynt canol y ddinas, mae hysbysfyrddau 8 troedfedd o uchder yn cael eu hychwanegu i ddiogelu'r safle.
Bydd y rhwystr dros dro hwn yn cadw'r cyhoedd yn ddiogel yn ystod y gwaith. Bydd yn cynnwys manylion y gwaith sy'n cael ei wneud ynghyd ag arwyddion cyfeirio.
Yn ystod y gwaith, bydd cerddwyr - gan gynnwys y rhai hynny ag anawsterau symudedd - yn dal i allu defnyddio'r troedffyrdd yn uniongyrchol y tu allan i'r sgwâr, ar Caer Street, Castle Bailey Street, Princess Way a Temple Street.
Gwneir rhai addasiadau yn yr ardaloedd hyn i sicrhau y gall yr hysbysfyrddau aros yn eu lle drwy gydol y gwaith adeiladu.
Bydd cerbydau a bysus yn gallu symud fel arfer. Bydd safle tacsis Caer Street yn aros ar waith ar gyfer pobl sy'n mwynhau nosweithiau allan mewn ardaloedd cyfagos fel Wind Street.
Bydd cyflenwyr yn gallu cael mynediad at ddibenion busnesau. Bydd pobl anabl yn dal i allu cael mynediad i siopau. Bydd pob busnes yn yr ardal yn masnachu fel arfer.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Dyma amser cyffrous i Sgwâr y Castell a gweddill Abertawe wrth i'n rhaglen adfywio gwerth £1bn barhau yn y ddinas.
"Bydd y sgwâr ar gau drwy gydol cyfnod y gwaith er diogelwch - ond bydd y troedffyrdd, y ffyrdd a'r busnesau cyfagos yn aros ar agor ac yn hygyrch.
"Byddwn yn gofyn i'n contractwyr darfu ar bobl cyn lleied â phosib ac yn trafod â nhw'n barhaus yn ystod y gwaith.
"Rwy'n diolch i bob un ohonoch am eich dealltwriaeth wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig hwn."
Cafodd dyluniad newydd Sgwâr y Castell ei greu gan y cyngor drwy gynnwys y cyhoedd y helaeth. Disgwylir i'r prif waith trawsnewid ddechrau fis nesaf a chaiff ei gwblhau tua diwedd y flwyddyn nesaf. Bydd yn gwneud Sgwâr y Castell, y mae golwg difywyd arno ar hyn o bryd, yn wyrddach ac yn fwy croesawgar i bawb.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Abertawe, "Bydd Gerddi Sgwâr y Castell ar eu newydd wedd yn fan gwych i gwrdd, treulio amser o safon a mwynhau digwyddiadau a chynulliadau cyhoeddus."
Llun: Golwg ar Sgwâr y Castell yn y dyfodol.