Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn lansio rownd ariannu newydd i helpu cymunedau i ffynnu

Mae Cyngor Abertawe wedi lansio rownd ariannu newydd ar gyfer syniadau a all ddod â bywiogrwydd newydd i gymunedau lleol.

Gowerton Jubilee Celebrations

Gowerton Jubilee Celebrations

Mae'r cyfle'n rhan o ymgyrch Cyllido Torfol Abertawe, cynllun sy'n helpu i gyflwyno syniadau arloesol a arweinir gan y gymuned i wella'r ddinas.

Gallai prosiectau cymwys dderbyn ernes o hyd at £5,000 gan y cyngor.

I fod â chyfle i sicrhau'r cymorth hwn, dylai grwpiau lleol greu eu prosiectau ar lwyfan cyllido torfol Spacehive a'u cyflwyno i Gyllido Torfol Abertawe erbyn 14 Medi.

Ymysg y rheini sydd wedi llwyddo mewn rowndiau ariannu blaenorol mae Clwb Athletau Tre-gŵyr a helpodd i ariannu dathliadau'r Jiwbilî Blatinwm. Drwy Gyllido Torfol Abertawe, fe lwyddon nhw i godi bron £7,000 a rhoddwyd arian iddynt gan 114 o gefnogwyr.

Meddai Dean Mason o'r prosiect, "Roeddem yn falch iawn o gymorth Cyllido Torfol Abertawe wrth helpu'n cymuned i ddathlu'r jiwbilî."

Mae prosiect sy'n dal i greu cefnogaeth gymunedol yn cael ei gynnal gan Elusen Neuadd Gymunedol Llanmorlais yng Ngŵyr.

Meddai aelod pwyllgor yr elusen, Ceris Jones, "Rydym yn benderfynol o ailagor cyn gynted â phosib fel bod y neuadd yn ddichonadwy am flynyddoedd i ddod. Bydd yn darparu mynediad at grwpiau, bydd yn meithrin perthnasoedd a bydd yn hybu cyfeillgarwch, cydlyniant, cynhwysiad ac amrywiaeth."

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Rydym yn barod i gefnogi prosiectau sy'n rhoi pobl leol wrth wraidd yr ymdrechion i roi hwb i Abertawe.

"Rwyf hefyd yn galw ar gwmnïau a sefydliadau i ymuno â ni i gynnig cefnogaeth ar gyfer y syniadau y mae pobl yn eu cynnig ar wefan Cyllido Torfol Abertawe. Gallai hyn fod yn arian neu mewn nwyddau - unrhyw beth a all helpu i wneud prosiectau'n llwyddiant gwirioneddol.

"Mae cwmnïau eisoes yn cefnogi yn y ffordd hon gan gynnwys Cwmni Budd Cymunedol Gower Power Co-op a grŵp Coastal Housing."

Cynhelir Cyllido Torfol Abertawe gan y cyngor gyda'r llwyfan cyllido torfol  Spacehive.

Gall y rheini â diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw ffordd yn y rownd ariannu nesaf e-bostio info@spacehive.com.

Mae Spacehive yn bwriadu cynnal gweithdy am ddim ar-lein o ganol dydd ddydd Mawrth 12 Gorffennaf, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor. I gadw lle ewch i www.bit.ly/CSworkshop120722

Llun: Dathliadau Jiwbilî Blatinwm Tre-gŵyr - a gynorthwywyd gan Gyllido Torfol Abertawe. 

Close Dewis iaith