Toglo gwelededd dewislen symudol

Cannoedd o gymdogaethau'n cael eu tacluso gan dimau glanhau lleol

Mae gwasanaeth glanhau ar draws y ddinas wedi arwain at gannoedd o safleoedd yn y ddinas yn cael eu glanhau a'u tacluso.

CWOT august 24

Lansiodd y Cyngor y fenter Timau Gweithredol Glanhau Wardiau newydd i fynd i'r afael â phroblemau o fewn cymunedau nad ydynt yn rhan o'r drefn lanhau reolaidd, ac mae'n dibynnu ar aelodau ward i arwain y timau.

Ers i'r fenter ddechrau 18 o fisoedd yn ôl, mae dros 1,300 o safleoedd wedi cael eu tacluso ac mae gwaith wedi amrywio o glirio sbwriel i gael gwared ar lwyni sydd wedi tyfu'n wyllt, glanhau arwyddion traffig a stryd a chlirio gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon.

Mae'r gwelliannau wedi cael llawer o sylw gan aelodau'r cyhoedd ac aelodau ward lleol, sydd wedi canmol ymdrechion y timau newydd a'r trawsnewidiad o fewn eu cymunedau.

Dyma rai o'r enghreifftiau diweddaraf o waith y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau.

Os ydych chi'n meddwl bod ardal yn eich ward lle gall y Timau Gweithredol Glanhau Wardiau helpu, rhowch wybod i'ch cynghorydd lleol fel y gallant gyflwyno'r gwaith i'r tîm ei gwblhau ar ei ymweliad nesaf. Gallwch hefyd ddod o hyd i restr sy'n cynnwys eich cynghorwyr lleol yma www.abertawe.gov.uk/cynghorwyr

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Awst 2024