Aelodau'r Cabinet yn cael gwybod am gynllun ar gyfer adeiladau treftadaeth gwaith copr yr Hafod-Morfa
Mae Cynghorwyr arweiniol wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddod â bywyd newydd i ddau adeilad hanesyddol yn Abertawe.


Aethant ar daith o gwmpas y Tai Injans Vivian a Musgrave ar hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Mae'r ddau ohonynt yn adeiladau rhestredig - ac mae caniatâd cynllunio i drawsnewid y ddau adeilad ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys bwytai, caffis, man arddangos a siopau.
Mae Cyngor Abertawe eisiau achub a thrawsnewid yr adeileddau nad ydynt yn cael eu defnyddio fel rhan o'i waith i ddod â bywyd newydd i Gwm Tawe Isaf.
Mae'n rhan o waith adfywio Abertawe gwerth £1 biliwn dan arweiniad y cyngor, sydd eisoes wedi cynnwys achub a thrawsnewid adeileddau treftadaeth eraill gan gynnwys adeilad Theatr y Palace, Albert Hall, a phwerdy Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'r tai injans yn allweddol i dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe. Nawr rydym am eu defnyddio ar gyfer pleser miloedd o bobl a chyfleoedd newydd hefyd.
"Dyma gyfnod cyffrous i Gwm Tawe Isaf oherwydd rydym yn bwriadu buddsoddi degau ar filiynau o bunnoedd yn yr ardal honno."
Gwnaeth y cyngor achub y ddau dŷ injan rhag pydredd parhaus sawl blynedd yn ôl. Gosodwyd pontŵn ar yr afon gerllaw.
Adeiladwyd yr adeiledd Musgrave, sy'n heneb gofrestredig, tua 1910 ac mae'n cynnwys yr Injan Musgrave prin, yr unig un o'i bath yn y DU sydd yn ei lleoliad gwreiddiol o hyd.
Adeiladwyd Tŷ Injan Vivian ym 1860.
Byddai adeilad newydd yn cysylltu'r tai injans. Byddai teras awyr agored.
Bydd y ddwy simnai yn cael eu cadw a chynhelir arolygon arbenigol o'r coed a bioamrywiaeth arall.
Gwnaeth Aelodau'r Cabinet hefyd ymweld â Sied Locomotif V&S Rhif 1, adeilad rhestredig arall a oedd yn rhan o'r gwaith copr. Mae caniatâd cynllunio ar waith i wneud yr adeiledd hanesyddol hwn sydd wedi dadfeilio yn ddwrglos ac yn ddiogel.
Mae'r cyngor yn gweithio ar gyfres o gynlluniau yng nghoridor yr afon Tawe. Mae ffynonellau ariannu'n cynnwys rhan o fuddsoddiad £20 miliwn gan Gynllun Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Mae busnesau sydd eisoes yn cynllunio dyfodol disglair ar safle'r gwaith copr yn cynnwys distyllfa wisgi Penderyn, a agorwyd ar y safle ddwy flynedd yn ôl, a Skyline, sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer atyniad hamdden awyr agored arwyddocaol a fydd yn cysylltu Mynydd Cilfái a Glandŵr.
Addaswyd diwethaf ar 03 Ebrill 2025