Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am wybodaeth ynghylch ymadawedig

Mae Cais am Wybodaeth ynghylch Ymadawedig yn gais a wneir gan unigolyn sy'n dymuno gweld gwybodaeth bersonol a gedwir gennym am unigolyn sydd wedi marw.

Er mwyn i'r cais fod yn un dilys, mae angen prawf o hunaniaeth, prawf o gyfeiriad, prawf o farwolaeth a phrawf bod gennych hawl i gael mynediad at yr wybodaeth y gofynnir amdani. Unwaith y bydd y cais yn ddilys, ein nod yw darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani o fewn 60 niwrnod.

Pa fath o wybodaeth y gallaf ofyn amdani?

Unwaith y byddwch wedi profi hawl, gallwch ofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â'r ymadawedig. Gan ein bod wedi'n rhwymo gan y Ddeddf Diogelu Data a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nid ydym yn rhydd i ryddhau gwybodaeth sy'n ymwneud â thrydydd parti sy'n cael ei hystyried yn bersonol neu'n sensitif.

Gall gwybodaeth a gynhwysir mewn cofnodion gofal cymdeithasol/gwasanaethau cymdeithasol barhau i fod yn destun dyletswydd ymddiriedaeth ar ôl marwolaeth yr unigolyn dan sylw a gall fod wedi'i heithrio o dan adran 41 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Byddwn yn rhyddhau'r wybodaeth bersonol neu sensitif hon dim ond os credwn fod lles y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth yn drech na lles y cyhoedd wrth gynnal y ddyletswydd ymddiriedaeth.

A oes gennyf hawl i wneud cais?

Rydym yn derbyn ceisiadau am wybodaeth ynghylch ymadawedig gan unigolion sy'n gallu profi bod ganddynt hawl i'r wybodaeth yn unig. Rydym o'r farn bod yr enghreifftiau canlynol yn brawf o hawl:

  • chi yw cynrychiolydd personol yr ymadawedig, a elwir hefyd yn ysgutor neu weinyddwr ei ystâd
  • roedd gennych Atwrneiaeth Arhosol Iechyd a Lles ar gyfer y person ymadawedig pan oedd yn fyw
  • roedd gennych Atwrneiaeth Arhosol Materion Ariannol ar gyfer y person ymadawedig pan oedd yn fyw (dylech fod yn ymwybodol, yn yr achos hwn, mai dim ond gwybodaeth am gyllid yr ymadawedig y byddai gennych hawl iddo)
  • roeddech yn Ddirprwy Lles Personol ar gyfer y person ymadawedig pan oedd yn fyw, ar yr amod nad yw eich cais yn mynd yn groes i unrhyw benderfyniad a wnaed gan atwrnai sy'n gweithredu o dan Atwrneiaeth Arhosol.

Sylwer ein bod yn barnu pob cais fesul achos. Er mwyn diogelu preifatrwydd ein preswylwyr, rydym yn cadw'r hawl i wrthod cais lle nad ydym yn credu bod digon o dystiolaeth i gefnogi'r gred y byddai'r unigolyn ymadawedig wedi rhoi ei ganiatâd i ryddhau ei wybodaeth pe bai'n fyw. Os na allwch brofi eich hawl, efallai yr hoffech gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth, fodd bynnag, bydd hyn yn cyfyngu ar yr wybodaeth y gallwn ei rhyddhau.

Efallai byddwn yn penderfynu peidio â rhyddhau'r holl wybodaeth pan dderbynnir cais yn gofyn am 'bob cofnod'. Byddai'n gyffredin i ni ryddhau'r wybodaeth sy'n angenrheidiol yn unig ac sy'n gymesur â'r diben y gwneir y cais iddo e.e. gweinyddu'r ystâd. Os ystyrir nad yw cofnod yn berthnasol, ni fydd yn cael ei ryddhau.

Cynnwys yr heddlu / corff rheoleiddio

Os yw'r cais am gofnodion yn ymwneud ag ymchwiliad yr heddlu/statudol/rheoleiddiol cyfredol neu sydd yn yr arfaeth, caiff y cofnodion eu rhyddhau i'r corff sy'n cynnal yr ymchwiliad yn hytrach nag i deulu neu bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r unigolyn ymadawedig. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw ymchwiliad yn cael ei ddiogelu rhag cael ei niweidio mewn unrhyw ffordd wrth barhau i gael mynediad at yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Bydd angen i'r corff ymchwilio perthnasol gysylltu â ni'n uniongyrchol yn yr achos hwn.

Cofnodion meddygol

Rydym yn gweithredu rhai gwasanaethau ar y cyd gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ac felly mae'n bosib y bydd gennym fynediad at gofnodion iechyd i ddarparu'r gwasanaeth ar y cyd. Fodd bynnag, ni fyddwn yn rhyddhau cofnodion iechyd o dan y broses hon ac yn lle, bydd angen i'r bwrdd iechyd perthnasol ystyried y cais. Os hoffech gael mynediad at rywbeth y gellid ei ystyried yn gofnod iechyd, dylech gysylltu â'r feddygfa neu'r bwrdd iechyd lleol yn uniongyrchol. Bydd ceisiadau o'r fath yn cael eu llywodraethu gan Ddeddf Mynediad at Gofnodion Iechyd 1990 a dylai pob corff allu rhoi gwybodaeth i chi ar sut i wneud cais o dan y Ddeddf honno. 

Prawf o'ch hunaniaeth / o'ch gallu i weithredu

I gyd-fynd â'r cais, bydd angen y canlynol arnom:

  1. Prawf o hunaniaeth (pasbort, trwydded yrru gyda llun neu dystysgrif geni)
  2. Prawf o gyfeiriad (cyfriflen banc neu fil sydd wedi'i ddyddio o fewn y tri mis diwethaf lle mae'r cyfeiriad yr un peth â'r un yr hoffech i'r wybodaeth gael ei hanfon iddo)
  3. Cadarnhad bod yr unigolyn wedi marw (tystysgrif marwolaeth neu grant profiant)
  4. Prawf o'ch hawl i gael mynediad at yr wybodaeth hon (gweler 'Oes gennyf hawl i wneud cais?' uchod)

Sut rydw i'n gwneud cais am wybodaeth ynghylch ymadawedig?

Gwneud cais am wybodaeth ynghylch ymadawedig Gwneud cais am wybodaeth ynghylch ymadawedig

Gwneud cais fel parti ar y cyd

Os ydych yn gwneud cais am yr wybodaeth ar eich rhan eich hun ac eraill, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o gydsyniad ar gyfer yr holl bartïon eraill. Yn yr achos hwn, yn ogystal â llenwi'r ffurflen uchod, bydd angen i bob parti (heb gynnwys eich hun) lenwi'r ffurflen ganlynol a'i hanfon drwy e-bost i cwynion@abertawe.gov.uk

Cais am wybodaeth ynghylch yr ymadawedig - manylion y sawl sy'n gwneud cais fel parti ar y cyd (Word doc) [102KB]

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Hydref 2024