Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o fasnachwyr yn dangos cefnogaeth i ymgyrch newydd canol y ddinas

Mae rhagor o fasnachwyr yn dangos eu cefnogaeth i ymgyrch newydd sydd â'r nod o gefnogi canol dinas Abertawe.

Hobos (Nick Doshanjh)

Hobos (Nick Doshanjh)

Mae ymgyrch #JoioCanolEichDinas wedi'i lansio'n ddiweddar gan Gyngor Abertawe i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o'r oll siopau, bwytai, tafarndai, darparwyr gweithgareddau a busnesau eraill yng nghanol y ddinas.

Bydd y cyngor yn arddangos y busnesau hyn ar ei gyfrifon Facebook ac Instagram yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf i annog rhagor o bobl i ymweld â chanol y ddinas a darganfod popeth sydd ar gael yno.

Meddai Nick Doshanjh, perchennog Hobos, siop ddillad o'r oes a fu ar Stryd Rhydychen, "Mae llety newydd y brifysgol yn yr ardal wedi newid pethau'n llwyr i ni, ond mae unrhyw beth y gellir ei wneud i gynyddu ymwybyddiaeth o ganol y ddinas a'i holl fusnesau yn beth gwych.

"Mae golwg canol y ddinas bellach yn llawer gwell nag yr oedd ryw 10 mlynedd yn ôl gyda llawer mwy o wyrddi, ond rwyf hefyd yn teimlo'n gyffrous am y gwaith ailddatblygu sy'n digwydd ar adeiladau fel yr hen uned BHS.

"Gallwch weld llawer o waith ar y gweill ac mae'n wirioneddol galonogol oherwydd bydd busnesau fel fy un i yn elwa."

Dengys ystadegau diweddar fod gan ganol y ddinas gannoedd o fusnesau, yn amrywio o fanwerthwyr a busnesau lletygarwch i leoliadau adloniant a darparwyr gwasanaethau proffesiynol.

Mae'n golygu, ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y ddinas, ni fyddwch yn talu mwy na £5 am ddiwrnod llawn - a byddwch yn talu £1 yr awr yn unig am hyd at bum awr.

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe,

"Rydym wrth ein boddau'n rhoi ein llais a'n cefnogaeth i ymgyrch #JoioCanolEichDinas yn Abertawe. Nid casgliad o adeiladau yn unig yw canol ein dinas - dyma galon ac enaid ein dinas sy'n tyfu'n gyflym.

"Nid lleoedd i siopa, bwyta neu ymlacio yn unig yw'r busnesau sy'n rhan o ganol ein dinas - maent yn fywoliaeth miloedd o bobl sydd, yn eu tro, yn cefnogi'r union gymuned y maent yn ei galw'n gartref. Mae ein ffrindiau a'n cymdogion yn cynnal ac yn gweithio yn y busnesau hyn ac wedi buddsoddi eu hangerdd, eu hamser a'u hadnoddau i greu mannau bywiog i ni eu mwynhau.

"Canol y ddinas yw enaid Abertawe ac mae ei llwyddiant yn lledaenu ar draws y gymuned gyfan. Mae'n darparu swyddi ac yn cynhyrchu refeniw, a thrwy siopa ac ymgysylltu â chanol y ddinas, rydych yn ein helpu i adeiladu Abertawe gryfach a mwy bywiog.

"Felly croesawch yr ymgyrch #JoioCanolEichDinas a gwnewch bwynt o archwilio holl gynigion canol ein dinas. Darganfyddwch y siopau annibynnol unigryw a mwynhewch y caffis, bariau a bwytai niferus. Wrth wneud hynny, rydych yn cefnogi busnesau lleol, gan ein helpu i dyfu a ffynnu fel canol dinas.

"Mae eich dewisiadau yn bwysig, a gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod canol ein dinas yn tyfu ac yn ffynnu fel canolbwynt masnach, diwylliant a chymuned am flynyddoedd i ddod."

Cymerwch gip yma i gael rhagor o wybodaeth am ganol y ddinas.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2023